Yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Senedd

Cyhoeddwyd 30/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/07/2018

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o chwarae rhan hanfodol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan y cynhelir amrywiaeth o arddangosfeydd, trafodaethau a digwyddiadau sy'n ymdrin â bywyd Cymru ar yr ystâd.


Yn hon, yr "Eisteddfod heb ffens", rhwng 3 a 11 o Awst, bydd y Senedd yn gartref i'r Lle Celf i weithgaredd y cymdeithasau, ac adeilad hanesyddol y Pierhead fydd cartref Shw'mae Caerdydd - canolfan dysgu Cymraeg ar y Maes a'r lle ar gyfer gwybodaeth am yr iaith Gymraeg.

Bydd y Cynulliad hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau fel rhan o raglen y Cymdeithasau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys:


 



Democratiaeth a’r Celfyddydau: effaith y naill ar y llall

Dydd Llun 6 Awst | 12.00 - 13.00

Mae Democratiaeth a’r Celfyddydau yn chwarae rôl ganolog ym mywydau pobl Cymru - ond sut maent yn effeithio ar ei gilydd? 

Bydd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn cadeirio panel trafod yng nghwmni Bethan Sayed AC, sef Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad, yr arlunydd Elin Meredydd, ac Eddie Ladd, cyflwynydd ac artist dawnsio a pherfformio blaenllaw. 

Mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

 



Barod am y bleidlais?

Dydd Mawrth 2 Awst | 11.30 - 12.30

Digwyddiad mewn partneriaeth â’r Comisiwn Etholiadol yw hwn, yn trafod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 mewn etholiadau yng Nghymru.

Caiff y drafodaeth ei chadeirio gan Elan Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol Cymru, yng nghwmni’r panelwyr: Elin Jones AC, y Llywydd; Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru; a phobl ifanc gan gynnwys Ethan Williams, Is-Lywydd Urdd Gobaith Cymru ac is-gadeirydd Bwrdd Syr IfanC, Fforwm Ieuenctid Genedlaethol Yr Urdd. 


 


 


Rôl Menywod mewn Gwleidyddiaeth

Dydd Mercher 8 Awst | 12.00 - 13.00


Wrth i ni nodi 100 mlynedd ers yr ymgyrch lwyddiannus i sicrhau’r bleidlais i fenywod, ymunwch ag Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Dr Elin Jones yr hanesydd, wrth iddynt drafod dylanwad menywod ar wleidyddiaeth yng Nghymru, yn y gorffennol a’r presennol.  

Bethan Rhys Roberts, y newyddiadurwr a’r cyflwynydd teledu, fydd yn cadeirio.


 


 


Llymder - y drafodaeth

Dydd Iau 9 Awst | 11.30 - 12.30

Ledled Cymru, mae llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus yn wynebu’r her o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gyda llai o adnoddau ariannol. 

Sut mae mynd i’r afael â ‘llymder’ orau? A ddylid ei wrthsefyll, ynteu ai peth drwg ydyw o gwbl? 

Ymunwch â phanel o sylwebyddion, ymgyrchwyr a ffigurau llywodraeth leol blaenllaw i drafod un o bynciau llosg bywyd cyhoeddus Cymru heddiw. Mae’r siaradwyr yn cynnwys: Ellen ap Gwynn, Arweinydd, Cyngor Sir Ceredigion, Menna Machreth, a Simon Brooks, Athro Cyswllt, Academi Morgan.

Mewn partneriaeth ag Academi Morgan.


 



Cyfiawnder yng Nghymru

Dydd Gwener 10 Awst | 12.00 - 13.00

Ar y panel bydd rhai o brif gyfreithwyr Cymru yn trafod dyfodol cyfiawnder yng Nghymru, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.


 


 

"Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o Eisteddfod sy'n torri tir newydd," dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Rwyf wrth fy modd bod y Senedd yn cymryd ei lle ar y Maes. Mae'r ŵyl yn ein cyrraedd ar amser cyffrous yn ein datblygiad wrth i ni baratoi i lansio Senedd Ieuenctid Cymru a chreu sefydliad seneddol sy'n addas ar gyfer y dyfodol."

"Rwy'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob rhan o Gymru i gartref ein Senedd genedlaethol ac i gymryd rhan mewn sgyrsiau a dadleuon sy'n ysbrydoli ac yn procio'r meddwl."

Bydd gan ymwelwyr gyfle prin i gael tynnu eu llun yn sedd y Llywydd yn Siambr y Senedd, a bydd staff wrth law i gynnig gwybodaeth i ymwelwyr ynghylch pwy sy'n eu cynrychioli a sut y gallant gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad.

Gall pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ddysgu rhagor am Senedd Ieuenctid Cymru a chofrestru i bleidleisio.

Hefyd bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael ynghylch diwygio'r Cynulliad, gan gynnwys gostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad i 16 oed a newid enw'r sefydliad i Senedd Cymru.

Dydd Gwener, 10 Awst, bydd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd, ac yn derbyn y wisg las am ei gwasanaeth i'n cenedl.

Mae rhagor o fanylion am yr Eisteddfod yn y Senedd yn www.cynulliad.cymru/eisteddfod2018.



2018 Eisteddfod

Rydym yn ganolog yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Dewch i ddarganfod beth sy’n digwydd yn y Senedd drwy gydol yr ŵyl.

Beth sy'n digwydd ›