Diben y Cod Ymddygiad yw cynnal enw da’r Senedd. Mae’n darparu’r ethos agored ac atebol sy'n angenrheidiol i atgyfnerthu hyder y cyhoedd yn Aelodau o'r Senedd o ran y modd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau cyhoeddus pwysig.
Mae'r Cod hwn yn berthnasol i bob Aelod o’r Senedd. Rhaid i Aelodau gydymffurfio ag ef. Ceir rhagor o reolau ar gynnal busnes y Senedd, gan gynnwys y Rheolau Sefydlog a chanllawiau’r Llywydd yma.
Mae'r Senedd wedi ymrwymo i ddelio'n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion. Os oes gennych unrhyw bryderon am ymddygiad Aelod, neu os ydych am wneud cwyn, dylech gysylltu â’r Comisiynydd Safonau.
Os oes gennych unrhyw bryderon sy’n ymwneud â Chomisiwn y Senedd, neu os hoffech wneud cwyn, dylech fynd i’n tudalen ar gyfer cwynion.
Ar 24 Mawrth 2021, cytunodd y Senedd ar y cod presennol ynghylch safonau ymddygiad Aelodau o’r Senedd a chanllawiau cysylltiedig, a daeth y cod i rym erbyn dechrau’r Chweched Senedd.
Ar 18 Mawrth 2026, cytunodd y Senedd ar y cynnig i gymeradwyo'r Cod Ymddygiad ar Safonau Ymddygiad Aelodau'r Senedd, i ddod i rym ar ddechrau'r Seithfed Senedd. Mae rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y cod newydd wedi'i nodi mewn erthygl newyddion.