Mae llaw menyw yn rhoi papur pleidleisio yn y bocs pleidleisio

Mae llaw menyw yn rhoi papur pleidleisio yn y bocs pleidleisio

Sut y caiff yr Aelodau eu hethol?

Cyhoeddwyd 19/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/08/2025   |   Amser darllen munudau

 

Sut gafodd Aelodau presennol y Senedd eu hethol?

Sut fydd Aelodau'n cael eu hethol yn 2026?

 

Sut etholwyd Aelodau presennol y Senedd?

Mae gan y Senedd 60 o Aelodau. Mae deugain ohonyn nhw'n Aelodau etholaethol, yn cynrychioli'r un etholaethau lleol ag Aelodau Seneddol San Steffan. Mae'r 20 sy'n weddill yn Aelodau rhanbarthol, sy'n cynrychioli un o bum rhanbarth Cymru.

Mae pum Aelod yn eich cynrychioli yn y Senedd. Un ar gyfer eich etholaeth a phedwar ar gyfer y rhanbarth o Gymru yr ydych yn byw ynddi.

Mae gan bob Aelod etholaethol ac Aelod rhanbarthol yr un statws yn y Senedd. Mae hyn yn golygu bod buddiannau holl ranbarthau ac etholaethau Cymru yn cael yr un gynrychiolaeth.

Aelodau Etholaethol

Cafodd y 40 Aelod etholaethol o'r Senedd eu hethol gan ddefnyddio'r system y cyntaf i’r felin. Mae hynny’n golygu bod yr ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau wedi cael ei ethol i bob etholaeth.

Aelodau Rhanbarthol

Pum rhanbarth Cymru yw: Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gorllewin De Cymru, Dwyrain De Cymru, Canol De Cymru. Mae gan bob un bedair 'sedd', sy'n golygu bod pob rhanbarth wedi ethol pedwar Aelod yn etholiad diwethaf y Senedd.

Cafodd yr 20 Aelod rhanbarthol eu hethol gan ddefnyddio system cynrychiolaeth gyfrannol .

Dyma sut oedd y system ranbarthol yn gweithio:

  • Cyflwynodd pob plaid neu grŵp mewn rhanbarth, restr o ymgeiswyr;
  • pleidleisiodd yr etholwyr dros y person y maen nhw eisiau i gynrychioli eu rhanbarth;
  • fel arfer, byddai'r pleidleisiau ar gyfer y rhanbarthau yn cael eu cyfrif ar ôl i'r pleidleisiau etholaethol gael eu penderfynu;
  • rhannwyd cyfanswm pob plaid ag 1 + nifer yr Aelodau o'r Senedd oedd ganddi eisoes yn y rhanbarth hwnnw;
  • y blaid â'r cyfanswm uchaf ar ôl y cyfrifiad hwn a gafodd y sedd nesaf ac etholwyd y person ar frig ei rhestr;
  • cafodd y patrwm ei ailadrodd hyd nes bod penderfyniad wedi'i wneud ar bob un o'r pedair sedd ranbarthol.

Gelwir y cyfuniad o'r ddwy system bleidleisio a ddefnyddir i ethol Aelodau etholaethol a rhanbarthol yn System Aelodau Ychwanegol.

Helpodd y System Aelodau Ychwanegol gyfansoddiad terfynol y Senedd i adlewyrchu'n well y gefnogaeth i bob plaid ledled y wlad.

 

Etholiad y Senedd 2026

Yr etholiad ar 7 Mai 2026 yw'r newid mwyaf i'r Senedd ers 25 mlynedd.

Beth sy'n newid?

  • Bydd yna system bleidleisio wahanol yn etholiad Senedd 2026, i wneud i'ch pleidlais gyfrif yn fwy nag erioed.
  • Bydd Cymru yn cael ei rhannu’n 16 etholaeth, gan ddisodli'r etholaethau a'r rhanbarthau sydd ganddi ar hyn o bryd.
  • Bydd gan bob etholaeth chwe sedd, sy'n golygu y bydd pob un o'r etholaethau newydd yn ethol chwe Aelod.
  • Bydd cyfanswm o 96 Aelod yn cael eu hethol i’r Senedd o bob rhan o’r wlad i gynrychioli pawb yng Nghymru.

 

Sut fydd Aelodau'n cael eu hethol yn 2026?

System bleidleisio newydd

Enw’r system newydd yw’r ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’. Ystyr hyn yw y bydd nifer y seddi y bydd plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu hennill yn adlewyrchu canran y pleidleisiau y maen nhw’n cael i raddau helaethach.

Y broses bleidleisio

  • Bydd pleidiau gwleidyddol yn paratoi rhestrau gyda hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth. Gall ymgeiswyr annibynnol, hefyd, sefyll mewn etholiad.
  • Ar ddiwrnod yr etholiad, bydd gan bawb 16 oed a throsodd un bleidlais dros y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol y maent eisiau i gynrychioli eu hetholaeth.
  • Bydd eich papur pleidleisio yn dangos rhestrau'r ymgeiswyr ar gyfer eich ardal, fel y gallwch weld pwy sy'n sefyll dros bob plaid, ynghyd ag unrhyw ymgeiswyr annibynnol.

Ennill seddi

  • Bydd seddi'n cael eu dyrannu yn seiliedig ar gyfran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu cael.
  • Os yw Plaid A, felly, yn cael 50% o'r pleidleisiau mewn etholaeth, mae'n debygol y byddai’n cael tair o'r chwe sedd. Os yw Plaid B yn cael 30%, mae'n debygol y byddai’n cael dwy o'r chwe sedd.
  • O dan y system rhestr, os yw plaid yn ennill digon o bleidleisiau i ennill tair sedd, bydd y tri pherson uchaf ar restr y blaid honno yn cael eu hethol yn Aelodau o'r Senedd.
  • Bydd ymgeiswyr annibynnol, hefyd, yn ennill seddi os oes ganddyn nhw ddigon o bleidleisiau.

Am olwg fanylach ar sut mae hyn yn gweithio, gweler Beth yw fformiwla D'Hondt?

Sut mae'r system newydd yn wahanol?

Mewn etholiadau Senedd blaenorol, defnyddiwyd cynrychiolaeth gyfrannol i ethol eich Aelodau o’r Senedd rhanbarthol.

Fodd bynnag, defnyddiwyd system y 'cyntaf i'r felin' i ethol eich Aelodau etholaeth. Dyma hefyd y system a ddefnyddir yn Etholiadau Cyffredinol y DU, i ethol eich Aelod Seneddol.

O dan y system hon y person â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill. Ystyr hyn yw mai dim ond y pleidleisiau ar gyfer y sawl a enillodd a gyfrannodd at y canlyniad terfynol.

Mae pob pleidlais yn bwysig

Yn etholiad y Senedd yn 2026, bydd yr holl seddi'n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau a gaiff pob plaid neu ymgeisydd annibynnol.

Goblygiadau’r system newydd yw bod eich pleidlais yn fwy tebygol o helpu i benderfynu ar y canlyniad cyffredinol, oherwydd bydd seddi yn y Senedd yn cael eu dyrannu ar sail cyfanswm cyfran y bleidlais.

Ystyr hyn yw y bydd cyfansoddiad terfynol y Senedd yn cynrychioli dewis pleidleiswyr ledled Cymru yn well.

 

 


Canlyniadau'r etholiad

Archwiliwch ganlyniadau etholiadau ac isetholiadau'r Senedd.

Gweler canlyniadau'r etholiad