Mae llaw menyw yn rhoi papur pleidleisio yn y bocs pleidleisio

Mae llaw menyw yn rhoi papur pleidleisio yn y bocs pleidleisio

Sut y caiff yr Aelodau eu hethol?

Cyhoeddwyd 19/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/05/2026   |   Amser darllen munudau

Sut fydd Aelodau'n cael eu hethol yn 2026?

Gan ddechrau gyda'r etholiad ar 7 Mai 2026, mae'r Senedd yn newid.

System bleidleisio newydd

Enw’r system newydd yw’r ‘system rhestr gyfrannol gaeedig’. Ystyr hyn yw y bydd nifer y seddi y bydd plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu hennill yn adlewyrchu canran y pleidleisiau y maen nhw’n cael i raddau helaethach.

Y broses bleidleisio

  • Bydd pleidiau gwleidyddol yn paratoi rhestrau gyda hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth. Gall ymgeiswyr annibynnol, hefyd, sefyll mewn etholiad.
  • Ar ddiwrnod yr etholiad, bydd gan bawb 16 oed a throsodd un bleidlais dros y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol y maent eisiau i gynrychioli eu hetholaeth.
  • Bydd eich papur pleidleisio yn dangos rhestrau'r ymgeiswyr ar gyfer eich ardal, fel y gallwch weld pwy sy'n sefyll dros bob plaid, ynghyd ag unrhyw ymgeiswyr annibynnol.

Ennill seddi

  • Bydd seddi'n cael eu dyrannu yn seiliedig ar gyfran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu cael.
  • Os yw Plaid A, felly, yn cael 50% o'r pleidleisiau mewn etholaeth, mae'n debygol y byddai’n cael tair o'r chwe sedd. Os yw Plaid B yn cael 30%, mae'n debygol y byddai’n cael dwy o'r chwe sedd.
  • O dan y system rhestr, os yw plaid yn ennill digon o bleidleisiau i ennill tair sedd, bydd y tri pherson uchaf ar restr y blaid honno yn cael eu hethol yn Aelodau o'r Senedd.
  • Bydd ymgeiswyr annibynnol, hefyd, yn ennill seddi os oes ganddyn nhw ddigon o bleidleisiau.

Am olwg fanylach ar sut mae hyn yn gweithio, gweler Beth yw fformiwla D'Hondt?

Sut mae'r system newydd yn wahanol?

Mewn etholiadau Senedd blaenorol, defnyddiwyd cynrychiolaeth gyfrannol i ethol eich Aelodau o’r Senedd rhanbarthol.

Fodd bynnag, defnyddiwyd system y 'cyntaf i'r felin' i ethol eich Aelodau etholaeth. Dyma hefyd y system a ddefnyddir yn Etholiadau Cyffredinol y DU, i ethol eich Aelod Seneddol.

O dan y system hon y person â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill. Ystyr hyn yw mai dim ond y pleidleisiau ar gyfer y sawl a enillodd a gyfrannodd at y canlyniad terfynol.

Mae pob pleidlais yn bwysig

Yn etholiad y Senedd yn 2026, bydd yr holl seddi'n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau a gaiff pob plaid neu ymgeisydd annibynnol.

Goblygiadau’r system newydd yw bod eich pleidlais yn fwy tebygol o helpu i benderfynu ar y canlyniad cyffredinol, oherwydd bydd seddi yn y Senedd yn cael eu dyrannu ar sail cyfanswm cyfran y bleidlais.

Ystyr hyn yw y bydd cyfansoddiad terfynol y Senedd yn cynrychioli dewis pleidleiswyr ledled Cymru yn well.

 

Sut yr oedd Aelodau o'r Senedd yn cael eu hethol cyn 2026?

Yn y gorffennol, roeddech chi’n bwrw dwy bleidlais. Roedd y bleidlais gyntaf yn dewis ymgeisydd i gynrychioli eich etholaeth, ac roedd yr ail bleidlais fel arfer i blaid gynrychioli’r rhanbarth o Gymru yr oeddech yn byw ynddi.

Roedd gan bawb yng Nghymru yn cael eu cynrychioli gan bum Aelod yn y Senedd. Un ar gyfer eich etholaeth a phedwar ar gyfer y rhanbarth o Gymru yr oeddech ynddi. Roedd gan bob Aelod etholaethol a phob Aelod rhanbarthol yr un statws yn y Senedd. 

Cyn yr etholiad yn 2026, roedd gan y Senedd 60 o Aelodau. Roedd 40 ohonyn nhw'n Aelodau etholaethol, yn cynrychioli'r un etholaethau lleol ag Aelodau Seneddol San Steffan. Roedd yr 20 a oedd yn weddill yn Aelodau rhanbarthol, yn cynrychioli un o bum rhanbarth Cymru.

 


Canlyniadau'r etholiad

Archwiliwch ganlyniadau etholiadau ac isetholiadau'r Senedd.

Gweler canlyniadau'r etholiad