Y Mudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru

Cyhoeddwyd 08/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/03/2021   |   Amser darllen munud

Tarddiad y Symudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru

Bu mudiad pleidlais i fenywod trefnus yn gweithredu’n barhaus ym Mhrydain ers dros drigain mlynedd. Enillodd etholfraint rhannol ym 1918, a sicrhaodd hawliau pleidleisio cyfartal â dynion, o’r diwedd, ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

Nod yr oriel hon yw rhoi cipolwg ar ran Cymru yn yr ymgyrch hir ac amlweddog hon, lle y ceisia’r ffotograffau a’r delweddau ddangos rhai o’i brif elfennau.

Yn y blynyddoedd cyn i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau ym mis Awst 1914, roedd tri phrif sefydliad a fu’n arwain llu o strategaethau pwyso a phropaganda, a ddyrchafodd yr ymgyrch ‘Pleidleisiau i Fenywod’ yn fater pwysig ym maes gwleidyddiaeth Prydain.

 


Poster o gyfarfod cyntaf Pleidlais i Fenywod a gynhaliwyd yng Nghymru, Merthyr. 04.06.1870

 


Emmeline Pankhurst yn siarad yn Hwlffordd. 11.07.1908

Women's Sunday, the WSPU’s first major demonstration, Hyde Park.
Dydd Sul y Menywod, gwrthdystiad mawr cyntaf y WSPU, Hyde Park. © Museum of London

Y Symudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru yn nechrau’r 1900au

Roedd yr aelodau o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol Menywod Emmeline Pankhurst (WSPU, a sefydlwyd ym 1903), y 'suffragettes' enwog, yn dilyn strategaeth filwrol, gan gynnwys ymosodiadau cynyddol ar eiddo cyhoeddus a phreifat, a oedd yn aml yn arwain at arestio a charcharu gweithredwyr. Arweiniodd eu polisi o ‘heclo’ gwleidyddion (ac yn cynnwys David Lloyd George, yn benodol yng Nghymru) at brotestio ac anhrefn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ac at rai o'r ymosodiadau corfforol mwyaf difrifol ar ymgyrchwyr. 

Mary Keating Hill (canol) o Aberpennar, y carcharor cyntaf o Gymru dros y mudiad pleidleisiau i fenywod, yn gadael carchar Holloway. Ionawr 1907
© Llyfrgelloedd Caerdydd - Cardiff Libraries

 

Yr Eisteddfod Genedlaethol, Albert Hall. Swffraget yn cael ei throi o’r neuadd ar ôl torri ar draws Mr Asquith. Mehefin 1909.
©Media Wales

Ymwahanodd y Gynghrair Rhyddid i Fenywod (WFL) oddi wrth y WSPU ym 1907 a sefydlodd hunaniaeth benodol o wrthwynebiad sifil 'milwrol ond di-drais', drwy wneud pethau fel gwrthod talu trethi, a pheidio â chymryd rhan yng nghyfrifiad 1911.

Aelodau o gangen Caerdydd Cynghrair Rhyddid Menywod yn gadael Caerdydd i gyfweld â Mr Asquith. Chwefror 1909.
©Media Wales




Cynghrair Rhyddid Menywod, Swyddfa Caernarfon.08.02.1910
©Gwasanaeth Archifau Gwynedd - Gwynedd Archive Service

 

O bell ffordd, roedd nifer fwyaf yr ymgyrchwyr, y 'suffragists', yn cefnogi'r Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Pleidleisiau i Fenywod (NUWSS) nad oeddent yn ymladd ond a oedd yn protestio’n ddi-drais a chyfreithlon, a ffurfiwyd o sefydliadau presennol ym 1897 ac a arweiniwyd gan Millicent Fawcett.


Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain.13.06.1908
©Media Wales



Suffragettes in Castle Square, Caernarfon. — c.1913  ©Gwasanaeth Archifau Gwynedd - Gwynedd Archive Service

Swffragetiaid ar y Maes, Caernarfon.c.1913
©Gwasanaeth Archifau Gwynedd - Gwynedd Archive Service

 

Ymgymerodd y tair cymdeithas, a nifer o sefydliadau llai eraill, gan gynnwys Undeb Pleidleisiau i Fenywod Cymric, â swm helaeth o waith propaganda, gan gynnal miloedd o gyfarfodydd cyhoeddus ym mhob cwr o'r wlad, gan rannu eu papurau newydd a llenyddiaeth arall (gan gynnwys rhai yn y Gymraeg), a chynnal ralïau enfawr yn Llundain, gan lobïo ASau.

Ni ddylid anghofio chwaith bod gwrthwynebiad pwerus a phenderfynol i’r bleidlais i fenywod – gan yr 'Antis', a ddaeth yn amlwg wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen.

 

Dol voodoo gwrth-swffragetaidd a anfonwyd yn ddienw at fenyw yng ngorllewin Cymru. Dechrau1900
© Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

 

Y Symudiad Pleidlais i Fenywod yng Nghymru yn yr 1920au

Ar ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau ym mis Awst 1914, roedd ymgyrch y bleidlais i fenywod yn llai amlwg, gan fod y mwyafrif o suffragetiaid wedi troi eu golygon at gefnogi ymdrech y rhyfel. Er bod Emmeline Pankhurst ac arweinyddiaeth y WSPU wedi disodli eu cred o ran dim ymladd gyda militariaeth, bu grwpiau a sefydliadau llai yn chwarae rhan bwysig i barhau i ‘chwifio’r faner dros y bleidlais i fenywod’ a, ddeng mis cyn diwedd y gwrthdaro (ym mis Chwefror 1918) rhoddwyd y bleidlais seneddol i fenywod am y tro cyntaf.

Cylchgrawn Punch.23.01.1918

 

Boneddiges Rhondda ac Emily Pankhurst mewn protest Hawliau Cyfartal. Illustrated Sunday Herald.04.07.1926



Cinio Victory Franchise Abertawe, Cambria Daily Leader. 20.10.1928

Fodd bynnag, roedd y fuddugoliaeth yn un rhannol yn unig, gan fod y ddeddfwriaeth yn cyfyngu'r bleidlais i fenywod dros ddeg ar hugain oed a oedd yn gymwys o ran eu heiddo yn unig (tra bod pob dyn dros un ar hugain, neu hyd yn oed bedair ar bymtheg oed,os oeddent wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn gymwys). Parhaodd y frwydr felly am ddegawd arall, nes y cafwyd etholfraint gyfartal, ar yr un telerau â dynion, sef, 21 oed a heb amodau o ran eiddo, ym mis Gorffennaf 1928.

Ryland Wallace (Author of The Women’s Suffrage Movement in Wales, 1866-1928)