Undo Things Done

Cyhoeddwyd 16/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2021   |   Amser darllen munudau

Dyddiad: 26 Gorffennaf – 5 Medi 2021

Lleoliad: Y Senedd

 

Mae'r Senedd yn falch o groesawu cyflwyniad cloi Undo Things Done, sef arddangosfa Sean Edwards a gomisiynwyd ar gyfer Cymru yn Fenis / Wales in Venice 2019.  

Comisiynwyd Undo Things Done gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar achlysur yr 58fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol - La Biennale di Venezia gyda'r partner arweiniol Tŷ Pawb, Wrecsam a Marie-Anne McQuay, y curadur gwadd. 

 

Mae Undo Things Done yn dechrau gyda phrofiad Edwards o dyfu i fyny ar ystâd gyngor yng Nghaerdydd yn yr 1980au; mae’n dal yr hyn y mae'n ei alw'n amod o 'beidio â disgwyl llawer' ac yn trosi hynny i iaith weledol gyffredin; un sy'n dwyn i gof ffordd o fyw sy'n gyfarwydd i nifer fawr o bobl. Fel rhan o'r cyflwyniad yn y Senedd, sy'n cynnwys cwiltiau Cymreig, printiau, cerfluniau a ffilm, mae'r artist wedi ail-wampio Refrain, 2019. 

 

Drama radio yw Refrain, a gyd-gynhyrchwyd gan National Theatre Wales ac a ysgrifennwyd ar gyfer Lily Edwards, mam yr artist, ac a berfformiwyd ganddi. Perfformiwyd y ddrama radio hon, a oedd wrth wraidd arddangosfa Fenis, yn fyw bob dydd yn ystod y Biennale, gan ei ffrydio o'i fflat yng Nghaerdydd i leoliad Cymru yn Fenis 2019. Mae Refrain yn plethu cofiant Lily Edwards, yn tyfu i fyny mewn Cartref Plant Catholig yng Ngogledd Iwerddon â'i bywyd diweddarach yng Nghymru, gyda deunyddiau a ddarganfuwyd ac atgofion Sean Edwards o'i blentyndod. Mae Edwards wedi addasu'r fersiwn a gomisiynwyd yn arbennig o Refrain, a gynhyrchwyd gan John Norton a Martin Williams, ac a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 ar 17 Rhagfyr 2019.  

 

Biennale Arte, Biennale Fenis, yw'r arddangosfa celfyddydau gweledol fwyaf yn y byd. Mae Cymru wedi bod â phresenoldeb yn y Biennale ers 2003, gan ddathlu'r gorau o dalent o Gymru ar y llwyfan rhyngwladol naw gwaith.  

 

Cafodd cyflwyniad Edwards Undo Things Done yn Fenis 25,000 o ymwelwyr yn ystod rhediad La Biennale di Venezia. Fodd bynnag, ynghyd â nifer o gyflwyniadau swyddogol eraill, daeth i ben yn gynnar oherwydd llifogydd digynsail ledled y ddinas. Effeithiodd y llifogydd ar waith dur a phren sylweddol yn in parallel with the past i-iv, 2019 sydd wedi’i dynnu o’r daith gyda gweithiau newydd wedi’u hychwanegu yn ei le gan yr artist wrth i’r daith fynd yn ei blaen i Dŷ Pawb yn Wrecsam a’r Bluecoat yn Lerpwl. Fel artist sydd bob amser yn addasu pob arddangosfa i'w gyd-destun newydd mae'r newidiadau hyn wedi cael eu hamsugno i broses waith Edwards ei hun. 

Undo Things Done Sean Edwards

 

Undo Things Done Sean Edwards

 

Undo Things Done Sean Edwards

 

Undo Things Done Sean Edwards

Sean Edwards, Undo Things Done (Cymru yn Fenis), 2019

Llun drwy garedigrwydd yr artist ac Oriel Tanya Leighton, Berlin. Comisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru