Arddangosfa gan Vision Fountain
Noddir gan Julie Morgan AS
Dyddiadau:24 Mai – 12 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Oriel y Senedd
“Cafodd Cymru ei dynodi’n Genedl Noddfa yn swyddogol yn 2019, ond mae ei hanes o gynnig lloches yn ymestyn yn ôl ganrifoedd. Ymgatrefodd Eidalwyr yng Nghymru yn y 19eg ganrif, nid yn unig am fod y bryniau a’r cestyll yn eu hatgoffa o’u cartref, ond hefyd oherwydd iddynt ddarganfod rhywbeth yr un mor bwysig: cyfeillgarwch a chymuned. Mae’r ysbryd croesawgar hwnnw yn parhau hyd heddiw.”
“Mae Cymru: Cartref Oddi Cartref yn dwyn ynghyd straeon a gasglwyd o blith y cymunedau amrywiol sydd wedi dod i Gymru o bedwar ban byd. Mae’r arddangosfa aml-gyfrwng yn cyflwyno casgliad o straeon trwy gyfuno dulliau traddodiadol â thechnolegau arloesol, yn cynnwys realiti rhithwir, gan sicrhau ymgysylltiad pob grŵp oedran.”
“Mae’r prosiect yn dathlu adegau o lawenydd, ond mae hefyd yn ymdrin ag atgofion poenus - straeon am drawma, dadleoli, a heriau creu bywyd newydd mewn lle dieithr.”
“Trwy blethu’r straeon a’r delweddau hyn ynghyd, mae’r arddangosfa’n dangos pam mae Cymru wedi bod yn genedl noddfa ers tro a sut mae ei hysbryd croesawgar yn parhau i lywio bywydau pobl o bob rhan o’r byd.”
– Richard Jones, Cyfarwyddwr Creadigol Vision Fountain
Cynhyrchwyd Cymru: Cartref Oddi Cartref gan Vision Fountain gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.