Pobl yn cymryd rhan mewn gweithdy crefft

Pobl yn cymryd rhan mewn gweithdy crefft

Cysylltu Drwy Grefft: Dathlu Diwylliant ac Amrywiaeth

Cyhoeddwyd 19/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Urdd Gwneuthurwyr Cymru

Dyddiadau: 27 Gorffennaf – 10 Medi

Lleoliad: Y Pierhead

 

Mae Urdd Gwneuthurwyr Cymru wedi bod yn gweithio gyda chrefftwyr medrus i ddarparu gweithdai cymunedol i drigolion lleol yn Butetown a Grangetown.

Dros y chwe mis diwethaf, mae cyfranogwyr wedi datblygu ac archwilio sgiliau newydd mewn crochenwaith, gwneud ffelt, argraffu ffabrig, gwneud gemwaith, brodwaith, gwydr ymdoddedig a mwy.

Cynhaliwyd gweithdai yng Nghanolfan Gymunedol Butetown, Pafiliwn y Grange a Crefft yn y Bae, sef oriel Urdd Gwneuthurwyr Cymru. 

“Gyda’n gilydd, rydym wedi rhannu straeon, hogi ein creadigrwydd a mynegi ein talent drwy grefft. Mae’r arddangosfa hon yn dathlu ein prosiect a chymunedau lleol Butetown a Grangetown.”

– Charlotte Kingston a Larissa Guida Lock, Urdd Gwneuthurwyr Cymru

Dau berson yn creu eitemau crefft o ganghennau helyg

Gwireddwyd y prosiect Cyswllt Drwy Grefft drwy gefnogaeth hael Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cyflwynir gan Urdd Gwneuthurwyr Cymru mewn partneriaeth â Chanolfan Gymunedol Butetown, Pafiliwn y Grange, Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat a Senedd Cymru.