Dathliad o Beintiadau Cyfoes Cymreig 2022

Cyhoeddwyd 11/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/10/2023   |   Amser darllen munudau

Noddir gan Dawn Bowden AS

Dyddiadau: 15 Rhagfyr 2022 – 9 Chwefror 2023

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

Llun: Amanda Turner

 

Nod y Dathliad o Beintiadau Cyfoes Cymreig yw dangos bywiogrwydd a thalent y bobl sy’n paentio yng Nghymru. Drwy gyfres o arddangosfeydd ar draws deuddeg lleoliad yn y De, y Canolbarth a'r Gorllewin, mae’r dathliad yn cynrychioli rhai o beintwyr mwyaf arwyddocaol Cymru, yn ogystal â'r rhai sydd wrthi’n ennill eu plwyf.

Mae’r dathliad bob dwy flynedd, sydd bellach yn cael ei gynnal am y trydydd tro, wedi tyfu i gynnwys mwy o leoliadau, gyda thros 100 o artistiaid yn cymryd rhan. Gan arddangos cerameg a cherfluniau wedi'u paentio, ochr yn ochr â pheintiadau mwy traddodiadol, mae'r dathliad yn arddangos amrywiaeth o artistiaid a chyfryngau, gan gynnwys gwaith myfyrwyr o golegau ac ysgolion. Mae'r amrywiaeth hwn o waith paentio yn dilyn y trywydd o'r dechrau ym myd addysg, yr holl ffordd hyd at yrfa lwyddiannus.

Dechreuodd y Dathliad o Beintiadau Cyfoes Cymreig ar 8 Gorffennaf 2022 a bydd yn para tan 23 Chwefror 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau cymunedol i bobl o bob oed. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan.

 

Llun: Martin Llewellyn

 

Llun: Zena Blackwell

 

Llun: Kate Freeman

 

Llun: Dawn Harries

 

Llun: Lewis Ryland

 

Llun: Gus Payne