Casgliad o blu aelodau wedi'u cynllunio gyda symbolau addurniadol a negeseuon ystyrlon a delweddau o obaith.

Casgliad o blu aelodau wedi'u cynllunio gyda symbolau addurniadol a negeseuon ystyrlon a delweddau o obaith.

Hafan: Yr Allwedd i Obaith

Cyhoeddwyd 27/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2024   |   Amser darllen munud

Arddangosfa gan Skylight o dan ofal Crisis De Cymru

Noddir gan Julie James AS

Dyddiadau: 7 Ionawr - 13 Chwefror 2025.

Lleoliad: Oriel y Senedd

 

Mae Crisis, yr elusen ddigartrefedd genedlaethol, yn falch o rannu’r neges am yr arddangosfa hon, a grëwyd gan aelodau posiect Skylight o dan ofal Crisis De Cymru. Mae’n pwysleisio, i bobl sy’n profi digartrefedd, mai’r posibilrwydd o gael lle i’w alw’n gartref yn aml yw’r allwedd i obaith.

Wedi’i chreu gan bobl sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd, mae’r arddangosfa yn cynnwys amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol gan gynnwys ffotograffiaeth, argraffu yn y Gelli, pyrograffeg, crefftwaith ac ysgrifennu creadigol. Mae'n gwahodd gwylwyr i sefyll yn esgidiau rhywun sy'n profi digartrefedd a myfyrio ar y rhwystrau a wynebir gan bobl nad oes ganddynt le sefydlog i'w alw'n gartref.

I bobl sydd wedi profi digartrefedd – boed hynny’n cynnwys mynd o un soffa i’r llall, aros mewn llety dros dro anaddas, cysgu allan, neu unrhyw fath arall o ddigartrefedd – mae’r allwedd i gartref yn datgloi cymaint mwy na dim ond agor drws.

Mae cael lle sefydlog i’w alw’n gartref yn ei gwneud hi’n haws dod o hyd i swydd a chadw swydd, yn haws aros yn iach yn feddyliol a chorfforol, ac yn haws i feithrin perthnasoedd. Mae'r allwedd i gartref yn datgloi sail y gallwn adeiladu ein bywydau arni. I lawer, cartref yw'r allwedd i obaith.

www.crisis.org.uk/about-crisis/wales

 

Lluniau

1 - Casgliad o blu aelodau wedi'u cynllunio gyda symbolau addurniadol a negeseuon ystyrlon a delweddau o obaith.

2 - Enghraifft o brint y Gelli aelod Crisis o gartref. Mae'r deunyddiau a ddefnyddir yn cynnwys deunydd lapio swigen a thempled tŷ.

3 - Aelod Crisis yn defnyddio pyrograffeg yn llaw rydd i losgi symbolau addurniadol ar bluen bren ar gyfer yr arddangosfa.

4 - Aelod Crisis yn argraffu yn y Gelli i greu delweddau i'w trosglwyddo i blatiau’r Gelli ac yna ar bapur gan ddefnyddio ystod o ddeunyddiau, lliwiau a gweadau.