Hooked

Cyhoeddwyd 11/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2024   |   Amser darllen munudau

Ella Jones

Dates: 24 Gorffennaf – 1 Medi 2024

Location: Neuadd y Senedd

Llun agos o berson yn rhoi edafedd ar wrthrych mawr blewog. Defnyddiwyd gwahanol liwiau o edafedd gan gynnwys pinc, gwyrdd, coch a glas.

Artist o Gymru yw Ella Jones ac mae hi’n arbenigo mewn creu gwaith celf rhyngweithiol creadigol sy’n ystyried cymhlethdodau canfyddiad cyffyrddol, gwead, a siapiau. Mae chwarae, chwilfrydedd, materoliaeth, cynaliadwyedd, a chysylltiad cryf â diwylliant Cymru yn ganolog i’w mynegiant artistig. 

Cafodd Ella ei hysbrydoli i greu ei gwaith celf ‘Hooked’ gan y dechneg bachyn clicied a gaiff ei defnyddio i greu celf tecstil gwlanog â llaw.

Person yn dal gwrthrych gwyrdd blewog o flaen cefndir porffor llachar. Mae'r gwrthrych wedi'i wneud o edafedd ac mae'n grwn ac yn hir o ran siâp. Dau gerflun llaw blewog o flaen cefndir du. Mae'r dwylo wedi'u gwneud yn bennaf o edafedd pinc. Mae darnau o edafedd glas golau, gwyrdd, coch a melyn hefyd yn frith o'r gwrthrychau.

Dechreuodd ei phrosiect fel archwiliad o’r gwahanol arferion cysylltiedig ag uwchgylchu ac ailddefnyddio ffabrig sy’n cael eu defnyddio gan genedlaethau a diwydiannau amrywiol yng Nghymru. Fel rhan o’r gwaith ymchwil, aeth Ella i’r archifdy yn Amgueddfa Werin Genedlaethol Sain Ffagan, a rhai o ffatrïoedd tecstiliau Cymru fel Melin Wlân Trefriw a’r Cwmni  Cwiltio Cenedlaethol, Ynys Môn.

Mae hefyd wedi bod yn cydweithio ag elusen GISDA, canolfan gymunedol Yr Orsaf, a Galeri Caernarfon i hwyluso gweithdai tecstiliau ar gyfer cymunedau lleol yn y Gogledd. Daeth pobl o bob oed i’r gweithdai gan ysgogi trafodaethau am agweddau cenedlaethau gwahanol tuag at uwchgylchu.

Llun agos o berson yn dal gwrthrych glas blewog. Mae'r gwrthrych wedi'i wneud o edafedd ac mae'n grwn ac yn hir o ran siâp.  

Mae’r teitl yn chwarae ar eiriau ac yn cyfeirio at y dechneg o fachu edafedd ar gynfas rhwyll a hefyd at yr ymroddiad a’r amynedd sydd eu hangen i gwblhau’r dasg sy’n cymryd cryn dipyn o amser. I greu’r gwaith celf, defnyddiodd Ella edafedd dros ben o weithdai a darnau o ffabrig a gafodd yn rhodd.

Ymunwch â ni yn y Senedd i weld y gweithiau celf rhwng 24 Gorffennaf a 31 Awst.

Cynlluniwch eich ymweliad >

 

Cafwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i greu ‘Hooked’. Roedd yr arddangosfa i’w weld yn Galeri Caernarfon rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2024.

Lluniau: ©Katie O'Neill ©Ella Jones