Jack Sullivan: Artist y Dociau

Cyhoeddwyd 08/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2026

Arddangosfa gan Tiger Bay and the World

Dates: 18 Gorffennaf i 1 Medi 2026

Location: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

 

Cartref Tiger Bay / Home to Tiger Bay, 1988

 

Plismon, milwr, brodor o Gaerdydd; llwyddiant pennaf yr artist Jack Sullivan oedd cysylltu pobl Caerdydd â'u gorffennol.

Roedd Jack Sullivan yn heddwas yn Nociau Caerdydd yn y 1940au a'r 50au. Wrth iddo gylchrodio’r dociau, brasluniodd y golygfeydd dyddiol o waith a chymuned. Degawdau yn ddiweddarach, yn yr 1980au, trawsnewidiodd y brasluniau hynny yn baentiadau.

Edrychwch ar y paentiadau o fywyd y Dociau a darganfyddwch y bobl a'r lleoedd fel y'u gwelir trwy lygaid Artistiaid y Dociau. 

"Rwy'n credu bod fy lluniau’n rhyw fath o goffadwriaeth. Rwy'n cael y pleser mwyaf pan fydd rhywun yn dweud am y llun, ‘Dyna sut roedd pethau.’” – Jack Sullivan

 

Cafodd yr arddangosfa hon ei harddangos gyntaf yn Amgueddfa Caerdydd. Roedd yr arddangosfa yn bosibl yn wreiddiol diolch i Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Yn ystod haf 2026, mae'r Senedd yn falch o gynnal yr arddangosfa yn y Pierhead—adeilad sydd wedi sefyll fel tirnod eiconig Dociau Caerdydd ers amser maith.

Delwedd trwy garedigrwydd Amgueddfa Caerdydd ©ystâd yr artist