Arddangosfa gan Monumental Welsh Women a’r artist Meinir Mathias, mewn partneriaeth â’r Senedd
Noddir gan y Llywydd, y Wir Anrhydeddus Elin Jones AS
Dyddiadau: 22 Chwefror - 7 Mai 2025
Lleoliad: Oriel y Senedd
Sefydliad dielw yw Monumental Welsh Women sydd â’r nod o sicrhau bod cyfraniad menywod i hanes a bywyd Cymru yn cael ei gydnabod. Yn 2016, dechreuodd y grŵp ymgyrchu i godi pum cerflun o fenywod nodedig o Gymru mewn gwahanol leoliadau o amgylch Cymru.
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2025, mae Monumental Welsh Women yn falch o gyflwyno’r arddangosfa hon sy’n dathlu dadorchuddio’r pedwar cerflun cyntaf: Betty Campbell yng Nghaerdydd, Elaine Morgan yn Aberpennar, Cranogwen yn Llangrannog, a’r Arglwyddes Rhondda yng Nghasnewydd. Bydd y cerflun olaf, i gofio am Elizabeth Andrews, yn cael ei godi yn y Rhondda eleni.

Ar gyfer yr arddangosfa hon, mae’r artist Meinir Mathias o Geredigion wedi peintio portreadau gwreiddiol o’r pum menyw a anrhydeddwyd gan brosiect Monumental Welsh Women. Dywedodd Meinir:
“Rwy’n credu bod y gwaith yma gan dîm Monumental Welsh Women i fynd i’r afael â’r angen am gerfluniau o fenywod Cymru yn gam hynod bwysig ymlaen i’n cymdeithas gyfan. Mae cydnabod ac anrhydeddu menywod hanesyddol drwy gelf yn hanfodol gan fod hynny’n helpu i gywiro’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein naratifau hanesyddol.”
Dywedodd y Llywydd:
"Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw "Cyflymu Gweithredu" tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac felly mae'n addas ein bod yn dathlu pum Menyw Bwysig o Gymru a oedd yn arloeswyr yn eu maes."
"Rwy'n arbennig o falch bod y Senedd yn cynnal yr arddangosfa hon gan yr artist benywaidd talentog Meinir Mathias, y bydd ei gwaith cyffrous yn rhoi safbwynt newydd inni ar bum ffigur hanesyddol pwysig."
"Rwy'n gobeithio y bydd yr arddangosfa yn denu ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd, ac y bydd yr ymgyrch i ddathlu nifer o fenywod nodedig Cymru yn parhau i fagu momentwm."
Yn yr arddangosfa, bydd cyfle i weld portreadau Meinir, maquettes a delweddau o’r cerfluniau, a darganfod mwy am hanes y menywod arloesol hyn.
Cyflwynwyd yr arddangosfa gan Monumental Welsh Women mewn partneriaeth ag Acuity Law.