Senedd Ieuenctid Cymru: Adeiladu'r Dyfodol Gyda'n Gilydd

Cyhoeddwyd 05/02/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/02/2024   |   Amser darllen munudau

Dyddiadau: 24 Chwefror - 18 Mai 2024

Lleoliad: Oriel y Senedd

Cynhaliodd Senedd Ieuenctid Cymru ei hetholiad cyntaf yn 2018. Mae’n llwyfan i godi lleisiau pobl ifanc ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar waith ail Senedd Ieuenctid Cymru.

Beth ydym ni eisiau ei weld yn newid?

Rydym ni’n 60 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru a gafodd eu hethol yn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Tachwedd 2023.

Cyflwynwyd ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru yn ein tri adroddiad, 'Ffyrdd Gwyrdd', 'Meddyliau Iau o Bwys' a 'Fy Niwrnod Ysgol'.

Yn yr arddangosfa hon, byddwch yn dod i wybod am y materion hyn – pethau sy'n bwysig i ni, a phobl ifanc eraill yng Nghymru.

Byddwn yn dweud wrthych am y newidiadau rydym ni wedi galw amdanynt, y cwestiynau rydym ni wedi'u gofyn, ac yn dathlu ein hamser fel Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.