Noddir gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd
Dyddiadau: 1 Mehefin – 31 Awst
Lleoliad: Oriel y Senedd ac Oriel y Dyfodol y Pierhead
![Llun sy’n dangos llecyn porfa gyda bryniau yn y cefndir. Mae grŵp o blant ysgol sy’n gwisgo cotiau glaw melyn a bagiau ar eu cefn yn cerdded tuag at y bryniau. Mae'r awyr yn gymylog a llwyd yr olwg.](/media/qf3lck1q/field-trip-jpg.jpg?mode=crop&width=500)
Mae ffotograffiaeth gyfoes Mike Perry o’r tirwedd yn agor ein llygaid i’r gwrthdaro rhwng gweithgareddau dynol, a’r angen dybryd i fynd i’r afael â’n problemau amgylcheddol.
Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, mae gwaith yr artist yn gais inni newid ein perthynas â byd natur. Yn lle toddi capiau iâ a llosgi coedwigoedd glaw, mae’r artist yn hawlio ein sylw ar yr argyfwng amgylcheddol sydd ar ein haelwyd.
Mae Tir/Môr yn dwyn dau gorff parhaus o waith ynghyd, gyda’r naill a’r llall wedi bod ar daith yng Nghymru, ac ar y llwyfan rhyngwladol, ers nifer o flynyddoedd.
![Llun sy’n dangos pysgod cregyn llwyd a gwyn yn bwydo ar wadn fflip fflop a daflwyd.](/media/ngxh4gel/ff29-jpg.jpg?mode=crop&height=500)
Yn y gweithiau celf 'Tir', mae'r artist yn canolbwyntio ar leoedd a elwir yn gyffredin yn ‘ardaloedd o harddwch naturiol’. Gan bortreadu lleoliadau fel ein parciau cenedlaethol, mae Perry yn defnyddio'r gwaith celf i archwilio’r effaith ddynol ar y mannau hyn.
Corff o waith yw Môr Plastig sy'n gosod gwrthrychau sy'n cael eu golchi i’r lan gan y môr mewn tri grŵp: Poteli, esgidiau a gridiau. Mae Perry yn defnyddio camera cydraniad uchel (neu high-resolution) i ddal y manylion arwyneb diddorol a geir ar bob gwrthrych.
Mae’r artist yn byw ac yn gweithio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
![Yn y ffotograff hwn, mae’r artist yn darlunio ffurf gerfluniol ei natur a grëwyd ganddo o gynfasau plastig y cafwyd hyd iddynt mewn cae cyfagos. Mae naws fygythiol i’r cynfasau sy’n hongian dros ganghennau ddraenen ddu leol.](/media/no3lvr3g/veiled-thorn-jpg.jpg?mode=crop&width=500)
Mae Tir/Môr yn arddangosfa deithiol Ffotogallery
Cyflwynwyd yr arddangosfa mewn partneriaeth â Ffotogallery ac Amgueddfa Cymru – National Museum Wales.