Trwy Ein Llygaid: 160 Mlynedd o Weledigaeth a Gwydnwch

Cyhoeddwyd 15/09/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/09/2025

Arddangosfa gan Sight Life

Noddir gan Jane Hutt AS

Dyddiadau: 11 Tachwedd 2025 - 8 Ionawr 2026

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, Y Pierhead

 

 

Mae 'Trwy Ein Llygaid' yn arddangosfa ffotograffiaeth sy'n dathlu 160 mlynedd o Sight Life, Sefydliad y Deillion Caerdydd gynt. Cafodd holl ffotograffau’r arddangosfa eu tynnu gan bobl sydd â rhyw fath o amhariad ar eu golwg.

Mae grŵp ffotograffiaeth Sight Life yn cynnwys ffotograffwyr profiadol ac amaturiaid uchelgeisiol. Yr hyn sydd gan bob un yn gyffredin yw cariad at ffotograffiaeth a rhyw fath o amhariad ar eu golwg.

Fel y gwelir o’u gwaith, nid yw colli golwg – boed oherwydd cataractau, glawcoma, dirywiad macwlaidd neu glefyd llygaid arall – yn rhoi stop ar yr angerdd dros luniau. Mae eu gallu i ddarlunio pensaernïaeth, portreadau, golygfeydd stryd, bywyd gwyllt a delweddau dan do syfrdanol gan ddefnyddio eitemau bob dydd yn dangos nad oes dim y tu hwnt i'w gafael.

Ac mae hynny'n adlewyrchu ethos ehangach yr elusen 160 mlwydd oed hon. Mae Sight Life yn camu i’r adwy pan fydd meddygaeth ym methu â gwneud mwy. Drwy gymysgedd o gymorth ymarferol, cefnogaeth grwpiau cyfoedion, clybiau a gweithgareddau, mae'r elusen yn galluogi pobl (gan gynnwys teuluoedd a ffrindiau) i weld nad diwedd byd yw diagnosis o golli golwg.

Yn ogystal â herio'r syniad bod angen golwg 20/20 ar ffotograffwyr, mae'r delweddau hyn yn helpu i hyrwyddo gwaith Sight Life ac yn dangos bod bywyd yn parhau ar ôl colli golwg.

 

Lluniau

  1. Fiona Hall, Days End Pier ©Fiona Hall
  2. Ian Burgess, Sprucing Up ©Ian Burgess
  3. Des Radcliffe, No Home No Christmas ©Des Radcliffe
  4. Tony Morgan, Tornado ©Tony Morgan