Windrush Cymru: dathlu bywydau a siwrneiau cenhedlaeth

Cyhoeddwyd 01/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/12/2021   |   Amser darllen munudau

 

Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes

Ym mis Mehefin 1948, gollyngodd yr Empire Windrush ei hangor yn Nociau Tilbury, Essex, ac arni dros 450 o deithwyr o’r Caribî. Ymateb i angen Prydain am weithwyr ar ôl y rhyfel oedd y dynion a’r menywod dewr hyn, gan ffarwelio â’u teuluoedd a’u ffrindiau gartref.

Dros y 40 mlynedd wedyn, dilynodd miloedd o bobl o’r Gymanwlad yr un llwybr, gan ymgartrefu yma yng Nghymru. Yn aml, ni chawsant groeso a gwahaniaethwyd yn eu herbyn.

Mae Cenhedlaeth Windrush wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i Gymru, ac mae’r cyfraniad hwnnw i’w weld hyd heddiw. Mae’r arddangosfa hon yn adrodd eu hanes nhw, yn eu geiriau nhw eu hunain.

Dan arweiniad Race Council Cymru, cyflwynir yr arddangosfa mewn partneriaeth â'r Senedd ac Amgueddfa Cymru ac mae'n rhan o Brosiect Treftadaeth Windrush Race Council Cymru, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

 

“Mae fy nghalon yn Jamaica.”

Cafodd Angela Barnes (1956-2020) ei magu yn Kingston, Jamaica. Symudodd i Gaerdydd yn ei harddegau cynnar.

“Roedd fy nhad yn berchen ar gaffi ar Stryd Bute o’r enw Nations Café, ac wrth gwrs roedd reis a phys ar y fwydlen. Roedden nhw’n arfer dod i chwarae dominos yno.”

“Roedd llawer o Wyddelod yn dod yno gan ein bod yn gwneud stiw Gwyddelig blasus. Roedd Dad yn estyn croeso cynnes. Er nad oedd gan rai ohonynt arian i allu talu am eu bwyd, byddai Dad yn dal i lenwi plât iddynt, ac roeddwn i’n meddwl bod hynny’n beth clên iawn i’w wneud. Dyma’r math o ysbryd cymunedol oedd yno, lle’r oedd pobl yn helpu’r rheiny nad oedd ganddynt fawr ddim.”

Angela Barnes, 2019, © Trwy garedigrwydd Carl Connikie

 

Anthony Wayne Wright gan Carl Connikie

“Gafodd o erioed gyfle, ac rwy’n credu y gallai fod wedi cyflawni mwy.”

Roedd tad Anthony Wayne-Wright yn gweithio fel glöwr ym Mhwll Nantgarw am dros 35 mlynedd.

“Ganed Dad yn Trelawny, Jamaica, a ganed Mam ym Merthyr Tudful, Cymru. Cefais i fy ngeni yng Nghaerdydd.

“Daeth Dad draw yn y 1950au, a chafodd gryn drafferth dod draw... Daeth sawl un o India’r Gorllewin draw yma gyda’r gobaith o wneud arian a dod â’u teulu draw wedyn.

“Yn y 1970au gyda dechrau Rastaffariaeth, roedd pob person du yn ymuno. Roedd ganddo fywyd caled yn Jamaica, felly roedd yn credu mai braint oedd bod yma ac y gallen ni wneud yn well o lawer. Ond ni oedd y genhedlaeth gyntaf a aned yma, a buom yn treulio cryn amser yn ystyried pwy oedden ni. Roedd Dad yn gweithio fel glöwr ac roedden ni’n eistedd ac yn rebelio yn erbyn addysg. Doedd o ddim yn deall hynny.”

Anthony Wayne-Wright, 2019 © trwy garedigrwydd Carl Connikie

 

Barbara Paulette Palmer gan Carl Connikie

“Wrth ichi fynd yn hŷn...rhaid i’r hanes gael ei adrodd.”

Daeth Paulette Palmer i Gymru yn 1970 pan oedd yn 15 oed, ryw ddegawd ar ôl ei rhieni. Mae wedi gweithio fel nyrs am dros 20 mlynedd.

“Roedd fy rhieni wedi dod yma, ac roedd rhaid i minnau ddod... Pobl dosbarth gweithiol oedden nhw. Roedd Dad yn gweithio yn y gweithfeydd dur yng Nghasnewydd, ac roedd Mam yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

“Cymerodd ychydig o amser imi ymgartrefu. Rwy’n cofio dod draw ar 17 Mai [1970]. Dyma fi’n mynd i’r ysgol ym mis Gorffennaf... Roeddwn i bob amser wedi mwynhau addysg – mae’n un o fy niddordebau, ac rwyf wrth fy modd yn darllen.

“Rwy’n cofio un o fy athrawon yn dweud ‘Pe bawn i’n gwybod ei bod hi mor glyfar â hynny, byddwn i wedi gwneud dipyn yn fwy’. Doedd yna ddim disgwyliad mawr o ddisgyblion. Mae addysg yn bwysig iawn – mae’n ein galluogi ni i fod yn gryf a sefyll ar ein traed ein hun, gan wybod beth y gallwn ni ei gyflawni.”

Barbara Paulette Palmer, 2019 © trwy garedigrwydd Carl Connikie

 

Daisy Maynard gan Carl Connikie


“Mae fy stori i’n un dda, ac mae’n wir.”

Ganed Daisy Maynard yn 1925 yn Bassterre, Ynys Saint Kitts. Symudodd i Gymru yn y 1950au i weithio fel nyrs.

“Pan ddes i yma yn fy 30au, roedd gen i Victor, Ralph a merch. Roedden nhw gen i gartref. Fe ddes i gyda ffrindiau. Wel, roedden nhw gyda fy rhieni, felly roeddwn i’n meddwl eu bod yn cael gofal da.

“Roedd fy swydd gyntaf yn ffatri Super Oil Seals...yna, fe es i Ysbyty Hamadryad. O fanno, gweithiais fy ffordd i fyny. Fe es draw i’r Mynydd Bychan. Ac o fanno wedyn, es i yn fy mlaen i weithio yn Ysbyty Elái."

“Newidiodd cryn dipyn o bobl. Beth alla i ei ddweud? Bellach, maen nhw’n eich gweld chi, a chan eich bod chi mewn swydd uwch na nhw, byddan nhw’n dweud “Dod draw i fan hyn, dod i gymryd swyddi ac arian”. Do, fe ddaethon ni yma, ond rwy’n ateb gan ddweud mai nhw wnaeth ofyn amdanon ni gan na fyddai pobl leol yn gweithio am ychydig bunnoedd yn unig.”

Daisy Maynard, 2019 © trwy garedigrwydd Connikie

 

Errol Alexis gan Carl Connikie

“Allwch chi ddim helpu lle cewch chi’ch geni.
Rwy’n hoffi Cymru’n fawr, ond o India’r Gorllewin ydw i’n dod.”

Daeth Errol Alexis i Gaerdydd o Ynys Saint Vincent yn 1957. Yn fuan ar ôl cyrraedd, ymunodd â’r fyddin.

“Morwr oedd Dad, ac i gael llong roedd angen dod i Brydain, ac roedd Caerdydd yn borthladd i forwyr... Felly, penderfynodd ein hanfon ni draw yma – roedd o eisoes yma. Ddaethon ni ddim i gyd ar unwaith. Mam, fy mrawd bach a’m chwaer ddaeth gyntaf. Ac ar ôl rhai blynyddoedd, ymunais innau.

“Fi oedd yr unig berson du yno bryd hynny. Ond yn y fyddin, mae pawb yn un teulu... mae’n grŵp agos iawn. Roedden ni gyd yn sefyll gyda’n gilydd, a phawb yn dibynnu ar bawb. Yn wyliadwrus o’n gilydd, waeth beth yw lliw eich croen.”

Errol Alexis, 2019 © trwy garedigrwydd Carl Connikie

 

Gloria Evans, 2019 gan Carl Connikie

“Os ydyn ni’n gwneud rhywbeth,

rydyn ni’n cydnabod bod mwy i’w wneud o hyd.”

Cafodd Gloria Evans ei geni yn Kingston, Jamaica ac mae'n cofio bod ei theulu a’r eglwys yn rhan fawr o'i bywyd.

“Roeddwn i wastad eisiau bod yn nyrs, a dyna oedd cynllun Duw ar fy nghyfer. Fe ddes i yma i astudio nyrsio a bydwreigiaeth. Dad oedd y cyntaf i ddod i Brydain. Roeddwn i’n 19 oed pan ddes i yma.

“Gwnes i fy hyfforddiant ymarferol yn Ysbyty Gyffredinol Brook, Shooters Hill, ac fe wnes i fy mydwreigiaeth yn Ysbyty Dewi Sant. Fe wnes i briodi yn 1961, a symudais i Gaerdydd yn 1963... Roedd gennym dri o blant.

“Mae fy nghalon i’n dal i fod yn Jamaica. Yn yr ysbyty, roedd sawl hil yno a doedd y newid ddim yn fy mhoeni. Rwy’n meddwl fy mod i’n rhywun sy’n gallu addasu.

“Rwy’n ymddiried yn Nuw hyd yn oed yn y sefyllfaoedd anoddaf... fy ffydd yn anad dim arall sydd wedi fy nghadw i fynd. Mae Duw yn Dduw da. Tydw i ddim am ddweud fy mod i’n berffaith, ond rwy’n gwneud fy ngorau.”

Gloria Evans, 2019 © trwy garedigrwydd Carl Connikie

 

Hesketh Boston, gan Carl Connikie

“Allech chi byth wybod pa fath o waith i obeithio amdano,

tan ichi gyrraedd yno.”

Ganed Hesketh Boston yn Dominica, a daeth i Brydain ar long yn 1960 pan oedd yn 19 oed, gan obeithio symud i Gymru i gael gwaith.

“Fe wnaethon ni ddod yma yn y 1960au. Roedd digonedd o waith – allech chi ddechrau mewn swydd heddiw, ac os nad oeddech chi’n ei hoffi ddwyawr yn ddiweddarach, gallech chi gael swydd drws nesaf. Roedd hi’n ddigon hawdd cael gwaith. Doedd dim llawer o arian, ond byddai hynny’n tyfu gyda’r economi.

“Byddech chi’n lwcus pe byddech chi’n cael stafell, mewn fflatiau un stafell yn bennaf. Un stafell, a chegin drws nesaf iddi. Erbyn hyn, os ydych chi’n rhentu rhywle gan rywun, bydd gan y tŷ tua tair stafell wely, gyda thri gwahanol deulu yn byw yn y tŷ hwnnw. Byddai’n anodd coginio wedyn, gydag un stôf a phawb yn gorfod disgwyl eu tro. Felly byddech chi’n dod gartref o’r gwaith, a choginio digon ar gyfer y diwrnod canlynol hefyd, oherwydd erbyn hynny byddai pawb yn y gegin unwaith eto.”

Hesketh Boston, 2019 © trwy garedigrwydd Carl Connikie

 

May Laida, 2019 gan Carl Connikie

“Peidiwch byth ag anghofio eich gwreiddiau.”

Cafodd May Laida ei geni ym Mauritius yn 1946, a symudodd i Gasnewydd yn 1965 i ymuno â’i dyweddi oedd wedi ateb galw’r Llywodraeth am weithwyr rai blynyddoedd ynghynt.

“Doeddwn i ddim yn gwybod ei bod hi’n oer. Dim ond dillad cotwm oedd gen i, felly diolch byth i’w fodryb fod mor garedig a rhoi côt ffwr imi. Mis Mai oedd hi, ond roedd hi dal yn oer iawn. Dim ond fy ngwisg gotwm oedd gen i wrth deithio yma, a chotwm oedd gweddill y dillad hefyd, felly doedd gen i ddim byd cynnes. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Roedd gen i fachgen bach bryd hynny, ac roedden ni’n byw mewn fflat un stafell, heb ystafell ymolchi. Roedd yna ystafell ymolchi, ond doedd y landlord ddim yn gadael inni ei defnyddio. Felly pob dydd Gwener...byddwn i’n defnyddio’r dŵr twym, yn ei roi mewn bwced, mynd i’r toiled ac ymolchi’r babi a fi fy hun. Yna, gwnaethon ni symud i fflat arall. Gwnaethon ni symud dair gwaith yng Nghasnewydd, cyn inni brynu ein tŷ ni.

“Roedd hi’n amser anodd, ond roedd bywyd yn rhad. Roedd y tŷ a’r ystafell yn rhad, ac roedd y cyflog ychydig yn llai na £10, felly dyna faint oedden ni’n byw arno. Roedd fy nyweddi hefyd yn anfon arian at ei fam gan ei bod hi wedi colli ei gŵr.”

May Laida, 2019 © trwy garedigrwydd Carl Connikie

 

Roma Taylor gan Carl Connikie

“Dangoswch barch at bobl hŷn, at bawb sy’n hŷn na chi, a pheidiwch ag iselhau neb... gwnewch ddaioni.”

Ganed Roma Taylor ar ynys Antigua yn y Caribî ym mis Rhagfyr 1943.

“Pan oeddwn i’n 15 oed, ysgrifennodd mam at dad yn gofyn iddo fy anfon i draw i Brydain. Gofynnodd dad a oeddwn i eisiau mynd, ac atebais innau fy mod i. O’r diwrnod imi ddweud yr hoffwn fynd hyd nes y diwrnod y gadewais, roedd dad yn crio.”

Teithiodd i Brydain a hithau’n 15 oed. Cyrhaeddodd yn Llundain i gwrdd â’i brawd a roddodd hi ar drên tua Chaerdydd, lle byddai’n aros.

“Sylweddolais ar yr holl simneiau yn yr adeiladau. Ym mis Hydref y des i draw, a doedd hi ddim yn rhy oer felly taniodd fy modryb y peiriant cynhesu trydanol.

“Es i ddim i’r ysgol, ond yn hytrach es i’r gwaith. Pan gyrhaeddais i Brydain, allwn i ddim mynd i’r ysgol. Doedd hynny ddim yn neis gan mai dim ond 15 oed oeddwn i. Yna, es i Gaerfaddon i nyrsio. Wedi hynny, des yn ôl i Gaerdydd i briodi.

“Ymunais â’r fyddin, ac roeddwn i yno am 25 mlynedd, gan ddechrau’n syth ar ôl imi gael yr efeilliaid. Fe wnes i fwynhau bywyd yn y fyddin. Roedd o’n wych – roedd o’n diriogaethol, ond yn wych. Byddwn i wedi ymuno pan oeddwn i’n 16 oed, ond roeddwn i’n tynnu at fod yn 26 oed pan ymunais i.

“Mae’n beth da i ysgolion ymweld a chlywed y straeon hyn, i gael clywed bod pobl wedi cael bywyd da.”

Roma Taylor, 2019 © trwy garedigrwydd Carl Connikie

 

Vernesta Cyril, gan Carl Connikie

“Cadwais yn brysur i dynnu fy meddwl oddi ar y ffordd y cawn fy nhrin.”

Ganed Vernesta Cyril yn Castries ar Ynys Saint Lucia yn 1943. Mae’n cofio iddi gael plentyndod hapus iawn, a’i huchelgais erioed oedd bod yn nyrs.

“Cefais blentyndod reit dda... Roeddwn i ar yr ochr arall, yr ochr dawel, yn hoffi fy llyfrau a gyda chriw bach o ffrindiau... Roeddwn i am fynd i ddysgu neu nyrsio neu rywbeth fel yna.

“Ar ôl sbel, pan oedd fy modryb gyda mi, fe wnaeth hi annog fy mam i fy anfon i draw i wneud y cwrs nyrsio yma... Felly dyma fi’n meddwl ‘fe ddof i fan hyn yn lle’. Roeddwn i’n gweld y peth fel antur.

“Roeddwn i’n arfer sefyll ar lan y môr a gweld hyn i gyd, yr awyr a’r môr yn cwrdd, a byddwn i’n meddwl ‘tybed beth sydd y tu hwnt i fan yna’... Oedd – roedd hi’n anodd, ond ar yr un pryd roeddwn i’n gwybod bod fy mrawd yma, roedd fy chwaer yma, roedd fy modryb yma, felly roedd gen i deulu bach yma. Wnes i ddim meddwl ddwywaith wrth ddod yma.”

Roedd Vernesta yn 17 oed pan ddaeth draw i Gymru o Ynys Saint Lucia. Yn ystod ei hamser ym Mhrydain, wynebodd hiliaeth a gwahaniaethu sawl gwaith, yn ei gwaith a’i bywyd personol.

“Sut ydw i’n mynd i ddygymod â hyn? Doedd yna ddim cyfreithiau ynghylch hiliaeth bryd hynny, a hyd yn oed pan gyflwynwyd cyfraith o’r fath, doedd o ddim yn gwneud rhyw lawer. Dim ond nawr y gellir gwneud ffỳs.”

Treuliodd Vernesta dros 30 mlynedd yn gweithio i ysbytai yng Nghymru.

“Dwi wedi cael ambell reolwr neis, gwneud fy ngwaith wnes i a gwneud y gorau y gallwn i. Fy ngwobr orau oedd bydwraig y flwyddyn.”

Vernesta Cyril, 2019 © trwy garedigrwydd Carl Connikie

 

Diolch

Hoffai Race Council Cymru ddiolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am wneud prosiect  Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes yn bosibl, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu a gwirfoddoli am eu gwaith. Rhaid diolch yn arbennig i hynafiaid Windrush Cymru, teuluoedd Cenhedlaeth Windrush a’r gymuned ehangach o hynafiaid sydd wedi cefnogi a chyfrannu at y prosiect. Diolch am rannu eich straeon er mwyn i genedlaethau iau ei chlywed gan ddatblygu gwaddol hanes pobl dduon yng Nghymru.

Bydd yr hanesion hyn yn cael eu harchifo yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, yn y gobaith y bydd yn helpu i greu gwell darlun o’r hanes sy’n gyffredin rhyngom, gan feithrin mwy fyth o gydlyniant cymunedol.

Ariennir prosiect Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a cynhyrchwyd gan Race Council Cymru mewn partneriaeth â:

Senedd Cymru, Race Council Cymru, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Mis Hanes Pobl Dduon Cymru, Casgliad y Werin Cymru, Windrush Cymru Elders, Cronfa Dreftadaeth, Black History Cymru 365