Dyddiad: Dydd Sul 24 Awst, 13.00-16.00
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am ddim
Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw. Gallwch alw heibio ar y diwrnod
Bydd Carnifal Trebiwt yn dychwelyd i Fae Caerdydd ar benwythnos gŵyl y banc ym mis Awst, gan gynnig cerddoriaeth, dawnsio a gweithgareddau i bawb eu mwynhau.
Mae croeso i chi ymuno â ni yn y Senedd ddydd Sul 24 Awst i gymryd rhan mewn sesiwn arbennig dan arweiniad Printhaus, yr unig weithdy argraffu sgrin cymunedol yng Nghaerdydd.
Byddwn yn creu ein crysau-T ein hunain ar gyfer Carnifal Trebiwt, gan ddefnyddio thema eleni fel ysbrydoliaeth, sef gweithgarwch morwrol, a chan gyfeirio at hanes y cychod yn Nhrebiwt a Tiger Bay.
Bydd dyluniad unigryw ar gyfer Carnifal Trebiwt i’w weld ar gefn pob crys-T, a fydd yn cael ei greu a'i argraffu gan Printhaus.
Bydd blaen y crys-T yn wag, yn barod ar gyfer eich dyluniad eich hun. Gallwch ddewis o blith ystod eang o ddelweddau morwrol a delweddau sy’n cynrychioli’r carnifal i addurno blaen eich crys-T mewn modd personol, cyn mynd allan i fwynhau gweddill y carnifal mewn steil.
Dim ond 100 o grysau-T fydd ar gael, felly dylech alw heibio'n gynnar er mwyn sicrhau nad ydych yn colli’r cyfle!