Crefftau Cymeriad Eira

Cyhoeddwyd 13/11/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Dyddiadau: Dyddiadau dewisol ym mis Rhagfyr a mis Ionawr

Lleoliad: Neuadd y Senedd

Am ddim

Ymunwch â ni yn y Senedd y gaeaf hwn ar gyfer llawer o weithgareddau rhad ac am ddim i’r teulu!

Byddwn yn dathlu lansiad Llwybr Eira Bae Caerdydd gyda diwrnod o grefftau ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr. Ymunwch â ni drwy gydol y dydd i addurno'ch cymeriadau eira a'ch peli gaeaf eich hun.

Yna, bydd crefftau Cymeriadau Eira ar gael yn y Senedd ar ddyddiadau dewisol ym mis Rhagfyr a mis Ionawr:

Dyddiadau ym mis Rhagfyr

Dydd Sadwrn 2

Dydd Sadwrn 9

Dydd Sadwrn 16

Dydd Llun 18 - Dydd Gwener 22

Dyddiadau ym mis Ionawr

Tuesday 2 - Saturday 6

 

Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer y teulu cyfan. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy gydol y gweithdy. Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw. Gallwch alw heibio ar y diwrnod ei hun.