Dyddiad ac amser: Dydd Iau, Hydref 27, 12:00 – 14:00
Lleoliad: Y Pierhead
£ Am ddim
Ynglŷn â’r digwyddiad hwn
Mae darlith flynyddol Cerflun Betty Campbell yn anrhydeddu gwaith pennaeth ysgol du cyntaf Cymru a’i gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Bwriad y ddarlith bydd archwilio'r agweddau o fywyd yng Nghymru a thu hwnt y bu'r addysgwr a'r arweinydd cymunedol yn gweithio i'w gwella a'u hyrwyddo.
Y siaradwr gwadd yw’r Athro a’r Hanesydd Olivette Otele. Yn lais o bwys yn y DU, mae'r Athro Olivette Otele yn awdur a hanesydd, ac Athro Nodedig y Gwaddol a’r Cof am Gaethwasiaeth yn SOAS, Prifysgol Llundain. Mae hi hefyd yn Gymrawd ac yn gyn Is-lywydd y Gymdeithas Hanes Frenhinol.
Mae’r ddarlith hefyd yn nodi penblwydd cyntaf dadorchuddio Cofeb Betty Campbell yng Nghaerdydd.
Mewn partneriaeth gyda Monumental Welsh Women a Chyngor Caerdydd.