Gerflun Betty Campbell yng Nghaerdydd

Gerflun Betty Campbell yng Nghaerdydd

Darlith Flynyddol Cerflun Betty Campbell

Cyhoeddwyd 10/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/10/2022   |   Amser darllen munudau

Dyddiad ac amser: Dydd Iau, Hydref 27, 12:00 – 14:00

Lleoliad: Y Pierhead

£ Am ddim

Ynglŷn â’r digwyddiad hwn

Mae darlith flynyddol Cerflun Betty Campbell yn anrhydeddu gwaith pennaeth ysgol du cyntaf Cymru a’i gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Bwriad y ddarlith bydd archwilio'r agweddau o fywyd yng Nghymru a thu hwnt y bu'r addysgwr a'r arweinydd cymunedol yn gweithio i'w gwella a'u hyrwyddo.

Y siaradwr gwadd yw’r Athro a’r Hanesydd Olivette Otele. Yn lais o bwys yn y DU, mae'r Athro Olivette Otele yn awdur a hanesydd, ac Athro Nodedig y Gwaddol a’r Cof am Gaethwasiaeth yn SOAS, Prifysgol Llundain. Mae hi hefyd yn Gymrawd ac yn gyn Is-lywydd y Gymdeithas Hanes Frenhinol.

Mae’r ddarlith hefyd yn nodi penblwydd cyntaf dadorchuddio Cofeb Betty Campbell yng Nghaerdydd.

Mewn partneriaeth gyda Monumental Welsh Women a Chyngor Caerdydd.

Archebwch

Tocynnau