Manylion y Digwyddiad:
Dyddiad: 12 Rhagfyr 2023
Amseroedd: 17.30 - 18.30
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
£ Am Ddim
Ynglŷn â'r Digwyddiad Hwn
Ymunwch â’r Senedd a Chanolfan y Mileniwm am noson o gerddoriaeth a hwyl yr ŵyl!
Uchafbwyntiau Digwyddiadau
Parêd llusernau:
Am 17:30 bydd pethau’n dechrau gyda pharêd o lusernau dan arweiniad Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown. Dewch i fwynhau goleuni’r llusernau, a fydd yn gosod y llwyfan ar gyfer taith drwy’r basn hirgrwn hyd at yr Eglwys Norwyaidd ac yn ôl i risiau’r Senedd.
Perfformiad newydd gan Gymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown:
Profwch greadigrwydd Cymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown wrth iddynt gyflwyno perfformiad newydd sbon sydd wedi’i greu yn arbennig ar gyfer y digwyddiad cofiadwy hwn.
"Bydd perfformiad y parêd yn cael ei ysbrydoli gan bantomeim masgiau Junkanoo o Jamaica, sydd yn ei dro wedi cael ei ddylanwadu gan draddodiadau o Orllewin Affrica ac Ewrop. Er enghraifft, mae Junkanoo yn cynnwys cymeriadau fel 'Horsehead,' sy’n atgoffa rhywun o draddodiad y Fari Lwyd yng Nghymru. Bydd yn cynnwys 12 o ddawnswyr, chwaraewyr drymiau a cherddorion eraill, pob un ohonynt wedi’u gwisgo mewn gwisgoedd a gomisiynwyd o’r newydd ar gyfer y perfformiad.”
Carolau a pherfformiadau:
Ar ôl dychwelyd i risiau’r Senedd, byddwn yn cael ein croesawu gan y Llywydd ar gyfer dathliad twymgalon. Gyda charolau a pherfformiadau trawiadol gan Pantasia Steel Pans a myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ymunwch â ni mewn dathliad gaeafol
Profwch hud a lledrith y gaeaf gyda ni. Does dim angen i chi archebu lle – dewch yn llu i rannu dathliadau’r ŵyl.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chanolfan y Mileniwm.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am y digwyddiad hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni.