Mae’r Senedd yn ymuno â llwybr Nadoligaidd cyffrous ym mis Rhagfyr.
O 1 Rhagfyr bydd 9 cymeriad sinsir a sled bara sinsir ym Mae Caerdydd.
Dewch o hyd i bob un o’r 10 llythyren sydd wedi’u cuddio ar y cymeriadau i gymryd rhan mewn raffl am ddim i ennill diwrnod i’r teulu ym Mae Caerdydd!
#BayGingerbreadTrail
Yr amseroedd agor - y Senedd a'r Pierhead
Dydd Llun - Dydd Gwener: 09.00 - 16.30
Dydd Sadwrn a gwyliau banc: 10.30 - 16.30
Ceir mynediad hyd at 16.00
Mynediad am ddim
Mae'r adeilad ar agor cyn ac ar ôl yr amseroedd agor arferol i ymwelwyr sy'n dod i wylio'r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgor a busnes arall y Senedd.
Rydym yn edrych ymlaen at agor Oriel y Siambr pan fydd y gwaith i ehangu'r Siambr wedi'i gwblhau. Yn ystod y cyfnod hwn, tra bod y Siambr ar gau, bydd yr Aelodau yn cyfarfod yn Siambr Hywel ar gyfer y Cyfarfod Llawn. Mae hyn yn golygu y bydd llai o bobl yn gallu gwylio'r Cyfarfod Llawn, bydd llwybr y teithiau yn wahanol i'r arfer, ac efallai y bydd sŵn gwaith adeiladu.