Ionawr 2003
- Ar ôl penodi Taylor Woodrow fel y dewis gynigydd ym mis Ionawr 2003, disgwylir eu tendr olaf ddiwedd mis Mai 2003. Bydd y Cynulliad yn trafod yr Adeilad ac yn cytuno ar bris penodol ym mis Gorffennaf 2003.
- Ar ddydd Mercher 29 Ionawr 2003, gwnaeth y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Lleol a Chymunedau ddatganiad i'r Cynulliad ar hynt prosiect Adeilad Newydd y Cynulliad.
- Yn unol â'r rhaglen bresennol, derbyniwyd tendrau ar 16 Rhagfyr 2002. Mae'r holl dendrau wrthi'n cael eu gwerthuso'n fanwl.
Gorffennaf 2003
- Ar 24 Mehefin 2003 cyhoeddwyd datganiad i'r wasg yn esbonio'r hyn sydd wedi'i wneud hyd yma ar Adeilad newydd y Cynulliad.
- Roedd y Datganiad yn nodi y byddai gofyn i'r Cynulliad ar 1 Gorffennaf 2003 gymeradwyo cynnig i arwyddo contract taliad untro gyda Taylor Woodrow ar gyfer adeiladu Siambr Adeilad y Cynulliad. Pe bai'r cynnig hwn yn cael ei gymeradwyo, byddai'r contract ar gyfer Siambr newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei roi am £40.997m heb gynnwys TAW, a'i dalu fel taliad untro.
Rhoi'r Contract i Taylor Woodrow
- Ar 1 Gorffennaf 2003 trafododd y Cynulliad y cynnig hwn a chytuno i benodi Taylor Woodrow yn gontractiwr i adeiladu Siambr newydd y Cynulliad Cenedlaethol am daliad untro o £40.997m heb gynnwys TAW. Cafwyd seremoni i Brif Weinidog Cymru lofnodi'r contract ar 1 Gorffennaf 2003. Cofnod trafodion y drafodaeth a manylion y bleidlais
- Ar 28 Gorffennaf 2003, aeth y contractwyr i'r safle i osod eu swyddfeydd dros-dro.
- Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle ym mis Awst 2003, ac yn gorffen yn ystod haf 2005.
Awst 2003
- Ar 4 Awst daeth Taylor Woodrow i'r safle i orffen y gwaith cloddio. Ar 14 a 15 Awst cyrhaeddodd rhagor o beiriannau trwm y safle er mwyn dechrau gwthio polion i'r ddaear i orffen y seiliau a drilio tyllau turio ar gyfer y system cyfnewid gwres daearol.
I weld lluniau o'r gwaith diweddaraf ar y safle, cliciwch ar y lluniau isod.
Medi 2003
Yr isadeiladwaith
- Cwblhawyd y gwaith o osod y pyst ar gyfer seiliau'r adeilad ddiwedd mis Awst ac mae'r llwyfannau drilio bellach wedi'u symud oddi ar y safle. Mae topiau'r pyst yn cael eu clirio a'u torri i lawr i'r un lefel â'i gilydd gan ddechrau wrth ymyl Ty Crucywel a gweithio draw. Mae capiau'r pyst a'r trawstiau gwaelod yn cael eu ffurfio ac mae llawer o'r cewyll cyfnerthu wedi'u cynhyrchu yn barod. Bydd y gwaith yn parhau ar y seiliau am rai wythnosau er mwyn paratoi'r rhan gyntaf ar gyfer y ffrâm goncrid.
- Mae'r sylfaen ar gyfer y craen twr wrthi yn cael ei pharatoi.
- Mae'r gwaith ar ddrilio'r tyllau ar gyfer y system oeri yn mynd yn ei flaen yn dda. Daethpwyd ag ail lwyfan drilio ar y safle a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau o fewn pythefnos.
Trefniadau dros dro
- Mae swyddfeydd Taylor Woodrow Construction wedi'u gosod yn eu lle ac yn cael eu paratoi er mwyn i'r staff symud i mewn iddynt. Mae'r gwaith o gysylltu'r gwasanaethau dros dro ar y gweill.
Yr uwchadeiladwaith
- Mae'r contractwr sy'n gyfrifol am lunio'r ffrâm goncrid wrthi ar y safle yn adeiladu rhan o'r ffrâm goncrid cyfnerthedig i'w phrofi.
Hydref 2003
Ymweliadau â'r Safle
- Roedd y 6ed o Hydref yn ddechrau Wythnos Genedlaethol Adeiladu. Yn ystod yr wythnos honno ymwelodd 2 ysgol leol â'r safle a bu aelodau o'r Tim Dylunio yn eu tywys o gwmpas.
Gwaith ar y Safle
- Mae'r gwaith gosod pileri bellach wedi'i gwblhau. Mae hyn hefyd yn cynnwys arolygu'r pileri presennol.
- Mae'r Cyfnewidwyr Gwres y Ddaear bellach wedi'u gosod. Mae'r gwaith o gysylltu pennau'r ffynhonnau â'r gwaith ar y safle yn mynd rhagddi.
- Derbyniwyd a chodwyd y Craen Tyrog ar 24 Hydref.
Cytiau ar y Safle
- Mae'r swyddfeydd ar y safle bellach wedi'u symud ac mae gweithwyr Taylor Woodrow bellach yn eu defnyddio.
Tachwedd 2003
Hynt y Gwaith
- Cwblhawyd y gwaith o osod y Cyfnewidwyr Gwres Daear yn ôl y cynllun. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i gysylltu pennau'r ffynhonnau ar y cyd â'r gwaith ar y ddaear.
- Mae'r pileri wedi'u torri i lawr ac eithrio'r rheini yng nghyffiniau'r ramp a'r ffordd halio. Mae gwaith cloddio ar gyfer lle i gadw'r peiriannau yn mynd rhagddo a'r ychydig bileri diwethaf yn ymddangos yn raddol, gan adael y ffordd yn glir ar gyfer y gwaith.
- Mae'r gwaith ar gapiau'r pileri a'r trawstiau daear wedi gwneud cynnydd da. Mae'r flanced ddraenio a'r adeilad hefyd yn mynd rhagddynt yn dda, ac mae'r ardal gyntaf wedi'i throsglwyddo i'r contractiwr fframiau.
- Mae'r contractiwr fframiau wedi cychwyn y gwaith o osod y craen twr a'i baratoi ar gyfer ei godi.
Ymweliad yr Arglwydd Rogers
- Ar 21 Tachwedd, ymwelodd yr Arglwydd Rogers â'r Cynulliad Cenedlaethol a chyfarfu â'r Gweinidog dros Gyllid ac â'r Llywydd. Ar ôl hynny, ymwelodd yr Arglwydd Rogers â'r safle a chyfarfod ag aelodau o'r Tîm Dylunio.