Hwyl yr Haf yn y Senedd

Cyhoeddwyd 13/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/07/2022   |   Amser darllen munudau

P'un a ydych wedi bod o'r blaen neu dyma'ch tro cyntaf, ewch i'r Senedd yr haf hwn i gael diwrnod llawn hwyl. Mae gennym lawer o weithgareddau ar gyfer pob oedran, yn amrywio o gelf a chrefft i weithgareddau animeiddio.

Arddangosfa'r Haf yn y Senedd

Affairs of the Art, yn dathlu gwaith Joanna Quinn, ffigwr enwog mewn animeiddio. Mae'r arddangosfa fawr gyntaf o'i gwaith celf yng Nghymru yn eich gwahodd i archwilio ffilmiau a chymeriadau eiconig Joanna a enwebwyd am Oscar.

Gweithgareddau

Os ydych chi wrth eich bodd yn tynnu llun a doodle, yna dewch i ychwanegu eich braslun eich hun at ein rholyn hir o bapur.  Gwelwch eich llun yn dod yn fyw ar ddiwedd yr Haf pan ddaw'n rhan o Reel Animeiddio'r Senedd.

Mae gennym hefyd fan chwarae a llwybr darganfod i chi roi cynnig arno!

Teithiau

Ymunwch â thaith dywys a dysgu mwy am waith Senedd Cymru, pensaernïaeth nodedig yr adeilad a hanes Bae Caerdydd.

Teimlo'n llwglyd?

Mae caffi'r Senedd yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, tameidiau ysgafn, a chacennau blasus.  Tra byddwch chi yno, cymerwch ennyd i bori drwy ein siop, sydd ag anrhegion hyfryd, danteithion melys, a'r llyfrau diweddaraf.

 

Mae'r Senedd ar agor rhwng 10.30 a 16.30 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac mae'n rhad ac am ddim i ymweld â hi.

 

Cynlluniwch eich Ymweliad