Mynd i ddadl neu gyfarfod

Cyhoeddwyd 17/09/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/09/2025

Darganfyddwch sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru.

P'un a oes gennych ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth neu ddim ond chwilfrydedd ynghylch sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru, mae croeso i chi ymweld â'r Senedd a mynd i ddadleuon a chyfarfodydd.

Mae'r rhain yn rhad ac am ddim i fynd iddynt.

Mynd i Gyfarfod Llawn

Bob dydd Mawrth a dydd Mercher, mae pob un o'r 60 Aelod o'r Senedd yn trafod materion cenedlaethol fel addysg, iechyd a'r economi.

Mae sesiynau poblogaidd yn cynnwys Cwestiynau i'r Prif Weinidog, a gynhelir bob dydd Mawrth.

Rydym yn argymell archebu lle, yn enwedig ar gyfer sesiynau poblogaidd fel Cwestiynau i’r Prif Weinidog.

Rhagor o wybodaeth

 

Dod i eistedd mewn cyfarfod pwyllgor

Mae grwpiau llai o Aelodau yn trafod pynciau penodol yn fanwl fel newid hinsawdd, trafnidiaeth neu wariant cyhoeddus.

Rydym yn argymell archebu lle, yn enwedig ar gyfer sesiynau prysur ond efallai y bydd seddi ar gael ar y diwrnod.

Rhagor o wybodaeth