Mynd i gyfarfod pwyllgor yn y Senedd
Eisteddwch mewn cyfarfod pwyllgor a gweld sut mae Aelodau o'r Senedd yn trafod materion pwysig yn fanwl.
Mae'r rhain yn gyfarfodydd llai, fel arfer yn cynnwys 4 i 6 Aelod, lle trafodir pynciau fel addysg, newid hinsawdd, trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus.
Mae cyfarfodydd pwyllgor yn helpu i lunio penderfyniadau a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Beth sy'n digwydd mewn cyfarfod pwyllgor?
Yn ystod cyfarfod pwyllgor, efallai y byddwch yn gweld:
- Arbenigwyr a sefydliadau sy'n rhoi tystiolaeth
- Aelodau'n cwestiynu Gweinidogion neu swyddogion
- Trafodaethau manwl ar gyfreithiau a pholisïau arfaethedig
- Adroddiadau ac argymhellion yn cael eu datblygu
Gwybodaeth am beth mae pwyllgorau’r Senedd yn gweithio arno a phryd maent yn cyfarfod
Archebu Eich Sedd
Gallwch archebu seddi hyd at dair wythnos ymlaen llaw. Er ein bod yn argymell archebu lle, nid yw bob amser yn angenrheidiol, efallai y bydd seddi ar gael ar y diwrnod. Gofynnwch yn y dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd.
chevron_rightEr gwybodaeth:
- Mae rhai cyfarfodydd pwyllgor yn cael eu cynnal yn breifat ac nid ydynt yn agored i'r cyhoedd
- Mae archebion grŵp wedi'u cyfyngu i 10 o bobl er mwyn sicrhau mynediad teg
- Mae seddi yn cael eu cadw am 15 munud ar ôl yr amser archebu, yna maent yn cael eu rhyddhau i'r rhestr wrth gefn
- Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr, rhowch wybod i ni wrth archebu fel y gallwn gadw eich sedd
- Os na fyddwch yn gallu dod, rhowch wybod i ni fel y gallwn gynnig eich sedd i rywun arall
Cyn i Chi Ymweld
- Dylech gyrraedd o leiaf 15 munud ymlaen llaw i fynd drwy'r gwiriadau diogelwch
- Rydym yn defnyddio sgrinio ar ffurf maes awyr, felly dewch ag eitemau hanfodol yn unig. Bydd yr holl fagiau ac eiddo yn cael eu sganio
Yn ystod y Cyfarfod
I helpu i gynnal amgylchedd parchus, dylech wneud y canlynol:
- Troi pob dyfais i'r modd tawel
- Peidio â chymryd lluniau na fideos
- Ceisio peidio â dod â bwyd, diod neu ddefnyddio e-sigaréts
- Ni ddylech gyrraedd dan ddylanwad alcohol na chyffuriau
- Peidio â siarad yn uchel na thorri ar draws y cyfarfod
- Peidio â pheri tramgwydd i ymwelwyr eraill
Gall ymddygiad aflonyddgar arwain at ofyn i chi adael.