Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Hydref 2010 i’w hateb ar 02 Tachwedd 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael ynghylch cynigion i breifateiddio swyddfa'r post. OAQ(3)3188(FM)
2. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)3169(FM)
3. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafodaethau sy'n cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill yn y DU ynghylch toriadau Llywodraeth y DU mewn gwariant. OAQ(3)3191(FM)
4. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wariant ar addysg. OAQ(3)3173(FM)
5. Veronica German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y nyrsys sydd ar gael i roi meddyginiaethau ar bresgripsiwn. OAQ(3)3170(FM) TYNNWYD YN ÔL
6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg dros weddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)3185(FM)
7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i hybu gwell ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd i oedolion. OAQ(3)3172(FM)
8. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant. OAQ(3)3186(FM)
9. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU ar Lywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)3190(FM)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer Dwyrain De Cymru dros weddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)3175(FM)
11. Brian Gibbons (Aberafan): Pa sylwadau y mae'r Prif Weinidog wedi'u rhoi i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch eu cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau chwilio ac achub de Cymru. OAQ(3)3182(FM)
12. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU. OAQ(3)3176(FM) W
13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd at gyflawni rhaglen Cymru’n Un. OAQ(3)3183(FM)
14. Helen Mary Jones (Llanelli): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â lles plant sy'n ceisio lloches yng Nghymru. OAQ(3)3171(FM)
15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Arolwg Patrymau Diwydiannol Cymru diweddaraf CBI Cymru. OAQ(3)3178(FM) TYNNWYD YN ÔL