Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Mehefin 2007 i’w hateb ar 27 Mehefin 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus
1. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cyrraedd targedau sy’n ymwneud â thlodi plant. OAQ(3)0043(SPS)
2. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0020(SPS)
3. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithrediad Cymunedau yn Gyntaf. OAQ(3)0041(SPS)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0050(SPS)
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Strategaeth Genedlaethol ar Ddigartrefedd. OAQ(3)0058(SPS)
6. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o hysbysiad diweddaraf yr Adran Masnach a Diwydiant ynglŷn â chau swyddfeydd Post. OAQ(3)0037(SPS)
W
7. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau a gafodd y Gweinidog yn ddiweddar gydag awdurdodau lleol yng Canol De Cymru. OAQ(3)0029(SPS)
8. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl ar incwm isel i gael tai fforddiadwy. OAQ(3)0023(SPS)
9. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu mesurau Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus lleol yn Nhor-faen. OAQ(3)0025(SPS)
10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynllun Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus lleol ym Mhowys. OAQ(3)0009(SPS)
11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i leihau trais yn y cartref. OAQ(3)0016(SPS)
12. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y caiff gwelliannau i ddarpariaeth gwasanaethau lleol eu monitro. OAQ(3)0005(SPS)
13. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei brif flaenoriaethau polisi ar gyfer tymor newydd y Cynulliad. OAQ(3)0038(SPS)
14. Janice Gregory (Ogwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau sy’n ymwneud â chaethiwed i alcohol yng Nghymru. OAQ(3)0052(SPS)
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ddull ar gyfer gwella’r cyflenwad o dai fforddiadwy. OAQ(3)0054(SPS)
Gofyn i'r Gweinidog dros y Gyllideb a Rheoli Busnes
1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau o ran y gyllideb ar gyfer y Gogledd. OAQ(3)0003(BAB)
2. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid cymharol ar gyfer y rhanbarthau ar draws Cymru. OAQ(3)0018(BAB)
3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod natur y data a gesglir yng nghyfrifiad 2011 yn adlewyrchu natur benodol Cymru yn gywir. OAQ(3)0015(BAB)
4. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y mesurau sydd ar waith i sicrhau atebolrwydd ariannol Cyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad. OAQ(3)0013(BAB)
5. Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus parthed y dyraniad arian i’w bortffolio. OAQ(3)0011(BAB)
6. Michael German (Dwyrain De Cymru): Wrth ddyrannu cyllid i’r portffolios, a yw'r Gweinidog yn ystyried unrhyw dargedau a gynigir gan Weinidogion. OAQ(3)0012(BAB)
7. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Gweinidog amlinellu blaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y deuddeg mis nesaf. OAQ(3)0002(BAB)
8. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddarparu arian ychwanegol i gynyddu’r Gyllideb Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(3)0006(BAB)
9. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei phrif flaenoriaethau polisi ar gyfer tymor newydd y Cynulliad. OAQ(3)0022(BAB)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu cyfle cyfartal yng Nghymru. OAQ(3)0007(BAB)
11. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio cynlluniau Mentrau Cyllid Preifat yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0009(BAB)
12. Andrew R T Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0026(BAB)
13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfle cyfartal i bobl anabl. OAQ(3)0016(BAB)
14. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio cynlluniau Mentrau Cyllid Preifat yng Nghymru. OAQ(3)0008(BAB)
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio Mentrau Cyllid Preifat yng Nghymru yn y dyfodol. OAQ(3)0025(BAB)