12/07/2016 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/07/2016

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Gorffennaf 2016 i'w hateb ar 12 Gorffennaf 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Ers 2011, faint o feddygfeydd ledled Cymru sydd wedi cau bob blwyddyn a ble oedd y meddygfeydd hynny? (WAQ70590)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2016

The Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport (Vaughan Gething):

Since 2011, eight GP practices have closed* across Wales. 

Location of practice Year practice closed
Shotton, Flintshire  2012
Bangor, Gwynedd 2013
Bangor,  Gwynedd 2014
Newport , Gwent 2014
Aberaeron , Ceredigion 2014
Maesteg , Mid Glamorgan 2015
Newport, Gwent  2016
Llanhilleth , Blaenau Gwent 2016


* This does not include any practice mergers; practices coming into health board management; or branch surgery closures.

 

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Ar gyfer bob blwyddyn ers 2011, faint o Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) ar gyfer meddyginiaethau sydd wedi cael eu gwneud i bob bwrdd iechyd; ac o'r ceisiadau hyn, faint gafodd eu derbyn a faint gafodd eu gwrthod gan bob bwrdd iechyd? (WAQ70591)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2016

Vaughan Gething: Information on individual patient funding requests by health board is not collected centrally. Public Health Wales (PHW) has published annual reports, “Individual patient funding requests and top-up payments: annual report for Wales” for 2013 - 2015. They can be accessed on the PHW web site in the Annual Report section by clicking on the link below:- http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/

Data for 2011-12 may be available from individual health boards.
The annual report of IPFR data for 2015-16 will be published in September by the All Wales Therapeutics and Toxicology Centre. 
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gytundebau Menter Cyllid Preifat (PFI) y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio ac, ar gyfer bob cynllun, a wnaiff y Gweinidog ddatgelu: a) ar gyfer pa brosiect y defnyddiwyd y fenter cyllid preifat; b) ei gostau cyfalaf cychwynnol, c) unrhyw gostau unedol, d) costau llog ac e) amcangyfrif o'r amser nes y caiff y cyllid ei dalu'n llawn? (WAQ70592)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Mark Drakeford): This information is published by HM Treasury as part of the data it publishes on all PFI schemes in England and Wales. The latest figures are available in the following link: https://www.gov.uk/government/publications/private-finance-initiative-and-private-finance-2-projects-2015-summary-data


Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn seiliedig ar ymrwymiad Maniffesto 2016 Llafur Cymru i dorri trethi busnesau bach, a gaiff y trothwy rhyddhad ardrethi newydd ei gynyddu o'r £6,000 presennol ac, os felly, faint? (WAQ70593)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn seiliedig ar ymrwymiad Maniffesto 2016 Llafur Cymru i dorri trethi busnesau bach, a gaiff y trothwy rhyddhad ardrethi newydd ar gyfer rhyddhad graddol ei gynyddu o'r £12,000 presennol ac, os felly, faint? (WAQ70594)

Derbyniwyd ateb ar 12 Gorffennaf 2016

Mark Drakeford: A temporary Small Business Rates Relief scheme is already in place for 2016-17. I will be considering the options over the summer for future relief from non‑domestic rates to support small businesses in Wales. This work will be informed by the outcome of the 2017 revaluation exercise currently being undertaken by the Valuation Office Agency.
 

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Ymhellach i Gofnod y Trafodion ar gyfer 30 Mawrth 2016, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a wnaeth y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus blaenorol ysgrifennu at bob awdurdod lleol cyn diwedd y Cynulliad diwethaf i'w hatgoffa o'u dyletswyddau o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal? (WAQ70595)

Mark Drakeford: The former Minister for Communities and Tackling Poverty, Lesley Griffiths AM wrote to all local authorities on 17 March 2016 reminding them of their duties in tackling gender pay inequality.

I have attached the letter for your information:

http://www.assembly.wales/written%20questions%20documents/information%20further%20to%20written%20assembly%20question%2070595/160712-70595-w.pdf