26/11/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Tachwedd 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 26 Tachwedd 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Lleol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd gwasanaeth cyntaf y trên newydd rhwng Caerdydd a Chaergybi (a fydd yn rhedeg ar 15/12/2008) ar gael i’r cyhoedd? (WAQ52774)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Byddaf.

Irene James (Islwyn): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Threnau Arriva Cymru gyda golwg ar ddarparu digon o le ar reilffordd Glyn Ebwy ar gyfer a) gemau rygbi rhyngwladol hydref 2008, a b) gemau’r chwe gwlad yn 2009? (WAQ52778)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Mae’n fater y mae’n rhaid i Drenau Arriva Cymru fynd i’r afael ag ef mewn ymateb i’r wybodaeth a ddarparwyd yn Grŵp Cyswllt Digwyddiadau Stadiwm y Mileniwm, a fynychir gan fy swyddogion.

Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu (a) Faint o drenau Trenau Arriva Cymru sydd wedi’u llogi i First Great Western ar hyn o bryd a (b) Pryd y caiff y trenau hyn eu dychwelyd i Drenau Arriva Cymru? (WAQ52779)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Caiff pum trên Dosbarth 150 (dau gerbyd) eu hisbrydlesu i First Great Western. Mae fy swyddogion yn trafod gofynion o ran cerbydau yn y dyfodol gyda Threnau Arriva Cymru.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu enwau’r rheini a fu mewn cyfarfod ag ef ar 11 Tachwedd 2008 ynghylch materion a oedd yn ymwneud â Blaenau Ffestiniog a’r sefydliadau yr oeddent yn eu cynrychioli? (WAQ52785)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Ar 11 Tachwedd cyfarfûm â chynrychiolwyr Cyngor Gwynedd. Ymhlith y rhai oedd yn bresennol roedd y Cyng. Dewi Lewis, y Cyng. Gwilym Euros Roberts, Mr Dewi Rowlands a Mrs Sioned Williams. Hefyd yn bresennol roedd Andrew Nicholas, John Williams a Dave Thomas, Swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwaith ffordd yng nghymuned Cynghordy yn Sir Gaerfyrddin? (WAQ52786)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Ni wnaed unrhyw waith ar y gefnffordd yng Nghynghordy yn ddiweddar. Fodd bynnag, mae BT wedi gwneud gwaith clirio coed o amgylch eu polion a’u cyfarpar yn yr ardal yn ystod y pythefnos diwethaf. Roeddent wedi gosod goleuadau traffig dros dro ar gyfer cyfnod y gwaith.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried agor rheilffyrdd newydd yng Nghymru o gwbl ac, os felly, a wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw brosiectau o’r fath? (WAQ52792)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Byddaf yn gwneud cyhoeddiad yn fuan am flaenraglen rheilffyrdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adennill unrhyw Gymorth Rhanbarthol Dewisol posibl o ganlyniad i golli Marketsafe ym Mhen-y-bont ar Ogwr? (WAQ52799)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Ni fydd trosglwyddo Marketsafe o Ben-y-bont ar Ogwr i Gaerffili yn arwain at unrhyw achos o adennill grant.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am a yw’r Holocost wedi cael ei dynnu oddi ar y cwricwlwm cenedlaethol ai peidio? (WAQ52807)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Cafwyd rhai datganiadau yn y wasg yn honni i’r Holocost gael ei dynnu o’r cwricwlwm. Mae’r adroddiadau hyn yn gamarweiniol. Mae nifer o gyfleoedd yn y cwricwlwm ysgol diwygiedig yng Nghymru i ddisgyblion ddysgu am yr Holocost a dysgu oddi wrtho.

Er enghraifft, mae cwricwlwm hanes Cyfnod Allweddol 2 yn gofyn i ddisgyblion astudio bywyd mewn cyfnod yn yr ugeinfed ganrif. Penderfyniad yr ysgol unigol yw pa gyfnod, ond mae llawer yn dewis astudio agweddau ar yr Ail Ryfel Byd ac maent yn cyfeirio at yr Holocost mewn ffordd sy’n briodol i oedran a gallu eu disgyblion.

Yng Nghyfnod Allweddol 3, mae’n ofynnol i ysgolion addysgu agweddau ar hanes y byd yn yr ugeinfed ganrif. Unwaith eto, dewis yr ysgol yw hi, ond mae llawer yn dewis astudio’r Ail Ryfel Byd fel un o’r digwyddiadau sydd wedi llunio’r byd modern. Fel rhan o’r astudiaeth, cânt y cyfle i ddysgu am yr Holocost.

Yn ogystal, mae’n ofynnol gan y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol bod pob pwnc yn y cwricwlwm, fel sy’n briodol, yn ceisio datblygu sgiliau, agweddau a gwerthoedd ABCh. Un o’r prif nodau yw i ddisgyblion ddod yn ddinasyddion gweithredol; bydd hyn yn cynnwys meithrin cydlyniant cymunedol a herio gwahaniaethu. Mae ystyried yr Holocost yn cydweddu’n dda â’r cyd-destun hwnnw.

Dilynir yr agweddau hyn o ddinasyddiaeth weithredol mewn Addysg Grefyddol hefyd, lle mae athrawon, sy’n gyfarwydd ag ymdrin â materion heriol a dadleuol yn ddyddiol, yn ymdrin â natur sensitif ymchwilio i gredoau, athrawiaethau ac arferion y prif grefyddau a gynrychiolir ym Mhrydain Fawr. Mae’r Fframwaith Enghreifftiol newydd ar gyfer Addysg Grefyddol yn seiliedig ar sgiliau ac mae’n rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ymchwilio i gwestiynau sylfaenol a godir gan y byd, y profiad dynol a chrefydd. Mae hyn yn galluogi athrawon i ymchwilio i gwestiynau sylfaenol o’r math a godir gan yr Holocost—cwestiynau am natur daioni a drygioni, gobaith a dioddefaint, ymrwymiad ac anobaith a diwinyddiaeth yr Holocost.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Irene James (Islwyn): Faint o Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy’n cymryd rhan mewn cynlluniau i gasglu cardfwrdd ar ymyl y ffordd? (WAQ52801)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Ar hyn o bryd mae 15 o Awdurdodau Lleol Cymru yn cymryd rhan mewn cynlluniau casglu cardbord o ymyl y ffordd, sef:

• Ynys Môn (rhan o dreial newydd)

• Sir Gaerfyrddin

• Caerffili (symiau bach yn unig)

• Caerdydd

• Ceredigion

• Gwynedd

• Merthyr Tudful

• Sir Fynwy

• Castell-nedd

• Casnewydd

• Sir Benfro

• Powys

• Rhondda Cynon Taf

• Abertawe

• Bro Morgannwg

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i annog awdurdodau lleol i ailgylchu mwy o bob math o ddeunyddiau y gellir eu hadfer gan gynnwys cardbord. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw casglu gwastraff y gellir ei ailgylchu ac mae’r mathau o ddeunydd a gesglir ar gyfer ei ailgylchu yn dibynnu ar ffactorau fel gwerthoedd y farchnad a’r seilwaith sydd ar gael. Disgwyliaf y bydd ailgylchu cardbord yn cynyddu yn y dyfodol wrth i awdurdodau ddatblygu gwasanaethau i gyflawni targedau o ran mwy o ailgylchu ac osgoi tirlenwi.

Irene James (Islwyn): A oes gan y Gweinidog darged i bob awdurdod lleol gymryd rhan mewn cynlluniau i gasglu cardfwrdd ar ymyl y ffordd? (WAQ52802)

Jane Davidson: Ar hyn o bryd nid oes targed penodol i awdurdodau lleol gymryd rhan mewn cynlluniau ailgylchu cardbord o ymyl y ffordd. Fodd bynnag, ceir targedau ailgylchu’r Cynulliad a blynyddoedd targed llym yr UE yn 2012-2013 a 2019-2020 ar gyfer gwyro Gwastraff Trefol Bioddiraddadwy oddi wrth safleoedd tirlenwi gan awdurdodau lleol o dan Gyfarwyddeb Tirlenwi’r UE. Bydd angen i hyn gynnwys cynyddu faint o gardbord sydd, wrth gwrs, yn fioddiraddadwy.

Irene James (Islwyn): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch cynnig ailgylchu Tetra Pak drwy gasglu ar ymyl y ffordd? (WAQ52803)

Jane Davidson: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i annog awdurdodau lleol i ailgylchu mwy o bob math o ddeunyddiau y gellir eu hadfer gan gynnwys Tetra Pak. Mae angen math arbenigol o ailgylchu ar Tetra Pak oherwydd natur y deunyddiau yn y cynnyrch ac mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi sefydlu systemau casglu i’r rhan fwyaf ohonynt drwy fanciau ailgylchu.

Mae casglu o ymyl y ffordd yn amlwg yn ddull effeithiol ac effeithlon o gasglu deunyddiau ac erbyn hyn mae tri awdurdod, sef Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful a RhCT, yn darparu casgliadau o ymyl y ffordd ar gyfer Tetra Pak.

Alun Cairns (South Wales West): When does the Minister expect to take a decision on the RWE N Power planning application for LNG plant in Pembrokeshire? (WAQ52808)

Jane Davidson: Pennir ceisiadau ar gyfer gorsafoedd pŵer dros 50MW, fel cynnig RWE N Power ym Mhenfro, gan Lywodraeth y DU drwy’r Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi sylwadau o natur ffeithiol i’r Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd. Câi’r orsaf bŵer arfaethedig ei chyflenwi â nwy o’r Rhwydwaith Trawsyrru Cenedlaethol yn hytrach na chan ddefnyddio LNG yn benodol.

Mick Bates (Montgomeryshire): When will the final Tan 16 'Sport, Recreation and Open Space’ be published? (WAQ52809)

Jane Davidson: Cwblhawyd y gwaith o ddiwygio’r TAN, yn arbennig ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, canfyddiadau prosiect ymchwil a ariannwyd gan Lywodraeth y Cynulliad a gwaith gan Fields in Trust i adolygu ei 'Safon Chwe Erw’. Bwriadaf gyhoeddi’r TAN diwygiedig ar ddechrau’r flwyddyn newydd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw gymorth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu i Ganolfannau Croeso? (WAQ52787)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o swyddogaeth Canolfannau Croeso? (WAQ52788)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi unrhyw gyfarwyddiadau i awdurdodau lleol yng nghyswllt rheoli a swyddogaeth Canolfannau Croeso? (WAQ52789)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cymorth i’r Rhwydwaith o Ganolfannau Croeso yng Nghymru, gyda chyllideb o £125,000 ar gyfer 2008-09. Caiff ei ddefnyddio i ariannu hyfforddiant staff, delwedd gorfforaethol y Canolfannau Croeso (yn cynnwys gwisg y staff), hyrwyddo, ymchwil a monitro’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth rhwng yr arianwyr craidd hefyd (fel arfer awdurdodau lleol) a rheolwyr y Canolfannau Croeso a Llywodraeth y Cynulliad. Yn ogystal, mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn talu cyflogau 1.5 o swyddogion sy’n helpu i gyflwyno’r swyddogaethau cymorth hyn.

Mae papur adolygu Canolfannau Croeso yn cael ei baratoi ar gyfer y Panel Ymgynghori ar Dwristiaeth. Caiff ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2008. Mae hyn yn ategu’r adolygiadau rheolaidd a’r ymchwil i’r defnydd a gwerth am arian a ddarperir gan y rhwydwaith Canolfannau Croeso yng Nghymru.

Mae’r Canolfannau Croeso yn cydymffurfio â chyfres o Ddisgrifyddion Lefel Gwasanaeth sy’n diffinio ystod a lefel y gwasanaeth y mae’n rhaid iddynt eu cyflwyno, ynghyd â chanllawiau ar arfer da.

Caiff cydymffurfiaeth â’r disgrifyddion hyn ei fonitro gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy ymweliadau asesu blynyddol gan Swyddog Llywodraeth y Cynulliad ac ymarfer 'Cwsmer Cudd’ bob mis.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pryd y mae’n bwriadu cyhoeddi canlyniadau’r cais am grant ar gyfer Beyond Borders yn Sain Dunwyd? (WAQ52798)

Alun Ffred Jones: Fel y gwyddoch, caiff arian Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y celfyddydau ei sianeli drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sy’n gweithio o fewn y fframwaith strategol a ddarparwn. Yn unol â’r egwyddor ariannu hyd braich, nid wyf mewn sefyllfa i roi unrhyw arian uniongyrchol nac i ymyrryd â phenderfyniadau ariannu unigol Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n penderfynu ar ei flaenoriaethau ei hun a faint o arian y dylai sefydliadau neu unigolion ei gael, gan ystyried galwadau cystadleuol ar ei gyllideb.

Fel y cyfryw, cyfrifoldeb Cyngor Celfyddydau Cymru yw cynghori ymgeiswyr o ran llwyddiant neu fethiant ceisiadau am grant.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Lleol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaethpwyd unrhyw asesiad am ddiffodd goleuadau stryd mewn rhannau o Gymru a’r effaith ar gynhwysiant cymdeithasol pobl hŷn? (WAQ52790) Trosglwyddwyd y Cwestiwn Ysgrifenedig hwn i’w ateb gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Y Dirprwy Prif Weinidog (Ieuan Wyn Jones): Ar hyn o bryd dim ond ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, sy’n gyfrifoldeb i’r awdurdodau lleol yng Nghymru, y caiff goleuadau stryd eu diffodd. Byddai’r effaith ar gynhwysiant cymdeithasol pobl hŷn yn un o’r nifer o ffactorau i’w hystyried gan awdurdod wrth wneud penderfyniad i ddiffodd goleuadau mewn lleoliad. Mae fy swyddogion yn ystyried y ffactorau hyn hefyd wrth ddatblygu polisïau mewn perthynas â goleuadau stryd ac arbed ynni ar gyfer cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch darparu goleuadau stryd yng Nghymru ac a wnaiff ddarparu copïau o’r ohebiaeth beth bynnag yw ei natur? (WAQ52791) Trosglwyddwyd y Cwestiwn Ysgrifenedig hwn i’w ateb gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Y Dirprwy Brif Weinidog: Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw’r goleuadau stryd ar y rhwydwaith ffyrdd lleol; erys y cyfrifoldeb ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd gyda Gweinidogion Cymru. Hyd yma, cafodd fy Adran bum cynrychiolaeth mewn perthynas â darparu goleuadau stryd yng Nghymru. Caiff y posibilrwydd o ryddhau’r ohebiaeth hon ei hystyried o dan God Ymarfer y Cynulliad ar Fynediad i Wybodaeth a bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ysgrifennu atoch o fewn 20 diwrnod gwaith i’r Cynulliad gael ei hysbysu o’r cwestiwn hwn.

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A fydd Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud cais i ysgwyddo rheolaeth dros swyddfeydd post yng Nghymru ynghyd â’r cymhorthdal, er mwyn i’r Cynulliad allu penderfynu ar eu dyfodol? (WAQ52812)

Leighton Andrews: Na fydd.