27/07/2016 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/08/2016

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Gorffennaf 2016 i'w hateb ar 27 Gorffennaf 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiau Pokemon Go ar y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru? (WAQ70740)

Derbyniwyd ateb ar 27 Gorffennaf 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (Ken Skates): No specific assessments have been carried out on the transport network in respect of Pokemon Go.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal neu eu cefnogi i annog pobl hŷn i gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff? (WAQ70738)

Derbyniwyd ateb ar 26 Gorffennaf 2016

Y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Rebecca Evans): The Welsh Government wish to see more people of all ages taking part in sport and physical activity and have channelled investment across many levels. For example, we are continuing to support Free Swimming across Wales for those aged 60 plus and are also supporting the Let’s Walk Cymru scheme which is run by the Ramblers. They report that they have over 14,000 walkers registered under the programme which is proving particularly popular with those aged 55 plus.

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd pecynnau profi canser y coluddyn ar gyfer pobl dros 75 oed yng Nghymru?  (WAQ70739)

Derbyniwyd ateb ar 26 Gorffennaf 2016

Rebecca Evans: Bowel cancer screening is offered in Wales up to the age of 74, as recommended by the National Screening Committee. Population screening is not without risks, so there needs to be a balance between the benefits and harms of the screening test being offered. For bowel screening, the additional risks from any follow-up investigations (i.e colonoscopy, and its possible complications) are considered to outweigh the potential benefits in an older population. Consequently bowel cancer testing kits are not offered to those aged 75 and over in Wales.

The UK NSC reviews evidence for screening programmes on a three yearly basis or sooner if new evidence becomes available. If future review processes recommend any changes we will obviously reconsider our current position.
Anyone who is experiencing bowel problems or concern at any age should seek advice from their primary care services, for example by consulting their GP, who can refer them for further investigation if necessary.

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd cyrsiau addysg ar gyfer pobl a gaiff ddiagnosis o diabetes yn parhau i fod yn flaenoriaeth mewn unrhyw adolygiad o Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes? (WAQ70734)

Derbyniwyd ateb ar 27 Gorffennaf 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (Vaughan Gething): Yes, structured diabetes education will remain a priority in the refreshed diabetes delivery plan.

Sian Gwenllian (Arfon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau iechyd a diogelwch gweithwyr Ymateb Cyflym unigol? (WAQ70741)

Derbyniwyd ateb ar 27 Gorffennaf 2016

Vaughan Gething: It is the responsibility of the Welsh Ambulance Services NHS Trust to ensure the health and safety of its staff at all times, in accordance with its Health and Safety Policy.

A standard operating procedure has been established for the utilisation of rapid response vehicles (RRVs), which includes actions for operatives and contact centre staff in respect of single-crewed RRVs such as an initial assessments of potential danger and maintaining regular contact between the contact centre and lone operatives.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, "Adroddiad Ymchwil Llifogydd: Llifogydd Llanrwst Rhagfyr 2015"? (WAQ70735)

Derbyniwyd ateb ar 26 Gorffennaf 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): Following heavy rainfall on Boxing Day 2015, three properties were flooded in the village of Llanrwst.  The flood alleviation scheme in the Conwy Valley performed well, however, demountable defences in Llanrwst were not installed in time leading to the unfortunate flooding of these properties.

Natural Resources Wales were asked to lead a review into what happened and have recently published their report into the flooding on their website.  The report sets out 18 recommendations and lessons learnt, alongside an action plan for addressing these.  At time of publication of the report, 4 of the actions had already been completed.

I am satisfied this report and the actions put in place will address these recommendations and lessons are being learnt for the future.  

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y cyhoeddir canlyniadau ymchwiliad ac ymarferion modelu hydrolig Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch llifogydd yn Nyffryn Conwy? (WAQ70736)

Derbyniwyd ateb ar 26 Gorffennaf 2016

Lesley Griffiths: Natural Resources Wales has appointed JBA Consulting to carry out hydraulic modelling work in the Conwy Valley area.  This will allow NRW to run a number of scenarios to help review future flood risk management in the valley.  This modelling work has already commenced and it is expected the final report will be delivered in early 2017. 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Ymhellach i WAQ70017, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau sut mae'r uchafswm gostyngiad sydd ar gael mewn cysylltiad â'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael wedi effeithio ar y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru, i gynnwys nifer y stoc? (WAQ70737)

Derbyniwyd ateb ar 26 Gorffennaf 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant (Carl Sargeant): Between 1 April 2015 and 31 March 2016, our social housing stock was reduced by the sale of 359 dwellings via the Right to Buy and Right to Acquire.

This is an increase of 26 per cent on Right to Buy and Right to Acquire sales in 2014-15.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Sian Gwenllian (Arfon): Yn y Cynulliad diwethaf, gwelwyd nifer o doriadau i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg a byddai rhagor o doriadau yn ei gwneud yn anodd iawn i'r Comisiynydd gyflawni ei chyfrifoldebau.  A yw'r Llywodraeth yn cytuno fod hyn yn bryder a bod angen amddiffyn y gyllideb hon?  (WAQ70730)W

Derbyniwyd ateb ar 26 Gorffennaf 2016

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (Alun Davies): Bydd y broses o gynllunio’r gyllideb ar gyfer y blynyddoedd nesaf yn digwydd dros y misoedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer cyllideb maes polisi’r Gymraeg, gan gynnwys dyraniad i Gomisiynydd y Gymraeg.

Sian Gwenllian (Arfon): Yn dilyn agoriad yr ymgynghoriad gan Cymwysterau Cymru ynglŷn â chadw TGAU Cymraeg ail-iaith, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar argymhellion yr Athro Sioned Davies ynglŷn â datblygu un cymhwyster erbyn 2018?  (WAQ70731)W

Derbyniwyd ateb ar 27 Gorffennaf 2016

Alun Davies: Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, rôl Cymwysterau Cymru (CC) yw sicrhau bod cymwysterau dilys ar gael i ddysgwyr sy'n dilyn y cwricwlwm statudol ar gyfer Cymraeg Ail Iaith ar hyn o bryd. Roedd eu hymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 15 Mai, yn gwahodd sylwadau ar newidiadau i'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith i'w addysgu o fis Medi 2017 ymlaen. Pan fydd y cymhwyster TGAU newydd yn cael ei gyflwyno yn 2017 bydd y cyrsiau byr TGAU Cymraeg Ail Iaith yn cael eu tynnu o'r rhestr.

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ei feini prawf pwnc ar gyfer TGAU Cymraeg Ail Iaith yn ddiweddar. Bydd y cymhwyster yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodwyd yn Un Iaith i Bawb a Dyfodol Llwyddiannus gan roi mwy o bwyslais ar siarad, gwrando a defnyddio'r iaith. Bydd hyn yn golygu bod y TGAU Cymraeg Ail Iaith yn fwy cydnaws â'r TGAU Cymraeg Iaith (iaith gyntaf) er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno un continwwm dysgu ar gyfer y Gymraeg fel rhan o'n cwricwlwm newydd. Fy uchelgais yw y bydd pob ysgol yn defnyddio'r cwricwlwm newydd i ategu eu dysgu a'u haddysgu ar gyfer plant a phobl ifanc 3-16 oed erbyn 2021. 

Sian Gwenllian (Arfon): Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn mesur ac yn mynd i'r afael â'r galw am addysg Gymraeg, gan hefyd gyfrannu at y targedau cenedlaethol?  (WAQ70732)W

Derbyniwyd ateb ar 27 Gorffennaf 2016

Alun Davies: Mae'r Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu'r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 wedi sefydlu gweithdrefnau lle mae'n rhaid i awdurdod lleol gynnal asesiad addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer ei ardal gyfan neu unrhyw ran o'i ardal y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu arni.

Mae Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant yn galluogi Awdurdodau Lleol i fesur yr angen am ofal plant mewn ardal benodol. Bydd yr asesiadau hyn yn helpu i nodi lle mae bylchau a, mewn ymgynghoriad â rhieni a chymunedau a lle'n briodol, rhoi cynlluniau yn eu lle i lenwi'r bylchau hynny.

Caiff gweithgareddau'r Awdurdodau Lleol i gyrraedd y targedau eu hamlinellu yn y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, gan gynnwys y targedau ar gyfer nifer y plant 7 oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Sian Gwenllian (Arfon): Pa waith paratoi mae'r Llywodraeth wedi'i wneud er mwyn gweithredu eich addewid maniffesto i sefydlu cronfa defnydd o'r Gymraeg a gwahodd busnesau i fuddsoddi yn y Gymraeg?  (WAQ70733)W

Derbyniwyd ateb ar 26 Gorffennaf 2016

Alun Davies: Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda partneriaid, yn cynnwys Comisiynydd y Gymraeg, i wella’r ffordd rydym yn gweithio i ymgysylltu gyda busnesau a’r Gymraeg, yn cynnwys edrych ar sut i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol, cynllunio’r gweithlu a cyfeirio busnesau at wasanaethau i’w cynorthwyo i ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd yr ymrwymiad maniffesto i sefydlu cronfa defnydd iaith yn ystyriaeth allweddol wrth bennu cyllideb ar gyfer y blynyddoedd i ddod ac mae swyddogion wedi dechrau mapio meysydd o flaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol.