27/11/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20fed Tachwedd 2008 i’w hateb ar 27ain Tachwedd 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu amcangyfrif o werth ôl-groniad yr atgyweiriadau i adeiladau ysgolion yng Nghymru. (WAQ52810)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o’r arian sydd wedi cael ei addo ar gyfer uwchraddio adeiladau sydd wedi cael ei ddarparu i ysgolion ac a ellir darparu’r ffigur hwn fel canran. (WAQ52811)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A fydd Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud cais i ysgwyddo rheolaeth dros swyddfeydd post yng Nghymru ynghyd â'r cymhorthdal, er mwyn i’r Cynulliad allu penderfynu ar eu dyfodol. (WAQ52812)