30/03/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Mawrth 2010 i’w hateb ar 30 Mawrth 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd cyfanswm yr incwm a oedd yn ddyledus i Lywodraeth Cynulliad Cymru yng nghyswllt ffermydd gwynt ar dir Llywodraeth y Cynulliad ym mhob un o'r 5 mlynedd diwethaf a beth yw'r rhagolygon incwm ar gyfer pob un o'r 3 blynedd nesaf. (WAQ55782) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A fydd swm canlyniadol Barnett o ganlyniad i lansio strategaeth 'Warm Homes, Greener Homes’ Llywodraeth y DU, ac os felly, faint mae'r Gweinidog yn disgwyl fydd hyn. (WAQ55783)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd cyfanswm y gwariant cyfalaf ar adeiladau ysgol ym mhob un o flynyddoedd ariannol yr Ail Gynulliad a beth fu'r cyfanswm ym mhob un o flynyddoedd ariannol y Trydydd Cynulliad. (WAQ55779)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod yr holl gadwyn gyflenwi dan y contract ar gyfer llaeth ysgol Cymreig yn dod o Gymru. (WAQ55781)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o dai fforddiadwy newydd sydd wedi bod ym Mhowys fesul blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf. (WAQ55780)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'u cymryd i ddatblygu'r model gofal ar gyfer cleifion sydd â mesothelioma neu'r amheuir bod ganddynt mesothelioma drwy sefydlu Grŵp Cynghori Canser yr Ysgyfaint. (WAQ55775)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod meddygon teulu'n gallu cael gafael ar wybodaeth ar y we yn amserol am symptomau larwm ar gyfer canser, fel y nodir yn 'Cynllun i Fynd i'r Afael â Chanser yng Nghymru'.  (WAQ55776)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wneud gyda'i pholisi i leihau nifer yr achosion o ganser yng Nghymru drwy atal sylfaenol, gyda'r nod o ddod â'r cyfraddau i lawr at y chwartel isaf yn Ewrop erbyn 2015. (WAQ55777)

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau: a) pwy yw aelodau Panel Cynghori Twristiaeth Cymru; b) pa sectorau o'r diwydiant twristiaeth y mae'r aelodau yn eu cynrychioli; c) pa mor hir mae pob aelod wedi bod ar y panel; ac d) pryd a ble caiff y cyfarfodydd eu cynnal. WAQ55778)