06/07/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 29/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/07/2016

​Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 6 Gorffennaf 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Mehefin 2016

Dadl Fer
NDM6059 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
 
Mae angen ein hundebau arnom fwy nag erioed

Edrych ar waith yr undebau yng Nghymru o ran mynd i'r afael â llymder ac annog mwy o aelodaeth a chefnogaeth i undebau.
 
NDM6058
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod gan gwmni dur Tata ym Mhort Talbot well gobaith o oroesi yn dilyn Brexit.
 
NDM6060 Elin Jones (Ceredigion)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2016/2017.

Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (ar gael yn Saesneg yn unig):
https://www.gov.uk/government/topical-events/queens-speech-2016

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 30 Mehefin 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6058
 
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi pa mor bwysig ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl.
 
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru.
 
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian presennol yr UE i hyrwyddo cynigion Plaid Cymru, yn benodol Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop fel y gall y gwaith ynni adnewyddadwy newydd gael ei adeiladu ar safle TATA ym Mhort Talbot i fynd i'r afael â'r mater o gostau ynni uchel, a Horizon 2020, fel y gall canolfan ymchwil a datblygu dur gael ei sefydlu ar Gampws Arloesi Prifysgol Abertawe i wella cyfleoedd busnes TATA UK.
 
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes angen hyn o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
 
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio'r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy'n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop.

6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod rôl hanfodol y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot, Llanwern, Shotton a Throstre i economi Cymru a'r holl Deyrnas Unedig.

2. Yn cydnabod gwaith Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU tuag at gynorthwyo TATA i ganfod prynwr credadwy i waith dur Port Talbot.

3. Yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio i lunio strategaeth i sicrhau hyfywedd a photensial hirdymor y diwydiant dur yng Nghymru.

4. Yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gydweithio â gwledydd eraill yn Ewrop ac ar draws y byd i sicrhau cytundebau masnach sydd o fantais i ddiwydiant dur Cymru.

7. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl 'credu' a rhoi yn ei le:

'ei bod yn bwysicach nag erioed, yn dilyn canlyniad Refferendwm yr UE, bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant gwneud dur yng Nghymru.'

NDM6060

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith nad yw Bil Cymru arfaethedig Llywodraeth y DU yn mynd mor bell â chynnig pwerau tebyg i'r rhai sydd ar gael i'r Alban, neu sy'n cael eu cynnig i'r Alban.

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r Briff Ymchwil: 'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?' ac yn credu y dylid gwneud darpariaethau, ar ôl i'r DU adael yr UE, i sicrhau bod pob deddfwriaeth sy'n rhoi effaith i Gyfarwyddiadau a Rheoliadau'r UE yn ymwneud â meysydd fel diogelu'r amgylchedd, hawliau gweithwyr, diogelwch bwyd ac amaeth yn cael eu cadw yng nghyfraith Cymru a'r DU oni bai y cânt eu dirymu gan y Senedd berthnasol.

'Cymru a'r UE: Beth mae'r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru?' (Mehefin 2016) - Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Y Gwasanaeth Ymchwil, y Gwasanaeth Cyfreithiol a Swyddfa'r UE