14/03/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/03/2017

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 14 Mawrth 2017

Cynigion a Gyflwynwyd ar 7 Mawrth 2017

 

NDM6254 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau ym Mil yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).  Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

'Bil yr Economi Ddigidol'

NDM6255 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cytuno bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:

a) creu rhagor o fentrau er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac amcanion Symud Cymru Ymlaen

b) mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu.

'Symud Cymru Ymlaen

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6255
 
1. David Rowlands (Dwyrain De Cymru)
 
Dileu is-bwynt a)

2. David Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder bod cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n sylweddol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhannol oherwydd gwahaniaethau mewn cynlluniau ailgylchu a chasglu gwastraff a ddefnyddir ym mhob ardal awdurdod lleol;

Yn gresynu bod 36,000 o achosion o dipio anghyfreithlon wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2015/16, gyda chostau o dros £2.1 miliwn i awdurdodau lleol eu clirio;

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn casglu gwastraff gweddilliol cartrefi bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 9 Mawrth 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
 
NDM6255
 
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

'sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.'
 
'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'

2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu at ddiwedd is-bwynt a):

'fel cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren.'

3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Fel mai Cymru fydd y wlad ailgylchu orau yn y byd, mae angen i awdurdodau lleol fabwysiadu arfer gorau er mwyn codi cyfraddau ailgylchu, a dysgu gan awdurdodau fel Ceredigion, lle y cafodd 68.1 y cant o wastraff trefol ei ailgylchu yn 2015/16.