19/10/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 13/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/10/2016

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 19 Hydref 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 12 Hydref 2016

Dadl Fer
 
NDM6118 Neil McEvoy (Canol De Cymru)
 
Gwneud lobïo yng Nghymru yn fwy agored.

NDM6119 Huw Irranca–Davies (Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2016.

NDM6121 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu at yr economi, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol.

2. Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn "wan ac anghyson", ac wedi'u nodweddu gan "ddiffyg uchelgais", fel y mae Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;

(b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;

(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a

(d) sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella cydweithrediad rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol presennol.

'Adroddiad Comisiwn Williams'

NDM6120
 
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn penderfynu sefydlu senedd ieuenctid i Gymru.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6121 

Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) archwilio'r ffordd y caiff llywodraeth leol ei chyllido, er mwyn sicrhau bod awdurdodau gwledig yn cael cyllid teg sy'n gyfartal i bob cymuned ledled Cymru; a

(b) gwella tryloywder o ran cyllidebu uwch staff awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod cyflogau swyddogion gweithredol yn gynaliadwy ac yn gosteffeithiol i dalwyr y dreth gyngor, a heb fod ar draul darparu gwasanaethau lleol.

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6121
 
1. Jane Hutt (Vale of Glamorgan):

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy'r trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16;

(b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy;

(c) parhau i archwilio'r achos o blaid cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a

(d) sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol rhwng yr awdurdodau lleol presennol.

 

Cynigion a gyflwynwyd ar 19 Hydref 2016

 
NDM6124 Elin Jones (Ceredigion):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

NDM6125 Elin Jones (Ceredigion):
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol;

1. Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a

2. Adam Price (Plaid Cymru) fel eilydd ar gyfer y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.