22/03/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 15/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/03/2017

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 22 Mawrth 2017

Cynnig a gyflwynwyd ar 8 Mawrth 2017

NDM6259
 
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Lee Waters (Llanelli)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd.

2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi.

3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf.

4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn elfen ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.

Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Mawrth 2017

Dadl Fer
 
NDM6266 Dawn Bowden (Merthyr Tydfil a Rhymni)
 
Undebau Credyd: Cyfraniad allweddol i fynd i'r afael ag allgáu ariannol
 
NDM6267 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i'r goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2017.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2017.

NDM6268 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pa mor bwysig yw cynllunio sgiliau ymlaen llaw er mwyn diwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol i ddarparu prosiectau seilwaith yng Nghymru a thu hwnt. 

2. Yn credu bod angen diwygio proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn elwa'n llawn ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pŵer prynu sector cyhoeddus Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gyflwyno Bil Caffael i'w gwneud yn ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus ddilyn polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, er mwyn sicrhau bod adeiladu yn cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf bosibl;

b) sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer proses gaffael y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff y dyheadau yn Natganiad Polisi Caffael Cymru eu gwireddu;

c) codi lefelau gwariant seilwaith cyfalaf er mwyn hybu'r economi yng Nghymru, gan roi hwb angenrheidiol i'r sector adeiladu;

d) ystyried yr achos dros sefydlu Coleg Adeiladu Cenedlaethol i Gymru er mwyn meithrin sgiliau o ansawdd uchel yn y diwydiant adeiladu.

'Datganiad Polisi Caffael Cymru'

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 17 Mawrth 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6267
 
1. David Rowlands (Dwyrain De Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod yr adroddiad wedi methu ag ystyried yr agweddau cadarnhaol ar adael yr Undeb Ewropeaidd.
 
NDM6268
 
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau a fydd yn rhoi contractau'r sector cyhoeddus o fewn cyrraedd cwmnïau Cymru, yn arbennig busnesau bach a chanolig.

2. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

2. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru yn datblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru sydd wedi lleihau rhwystrau rhag caffael ar gyfer busnesau bach a chanolig ar hyd a lled Cymru.

3. Yn cydnabod yr angen i gynyddu gallu o fewn sector cyhoeddus Cymru i fanteisio i'r eithaf ar effaith gwariant caffael o fewn economi Cymru.

4. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen newydd ar gyfer caffael er mwyn helpu i alluogi sector cyhoeddus Cymru i wneud defnydd deallus o bolisi a deddfwriaeth ar draws Cymru.

5. Yn cydnabod cynlluniau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd caffael sylweddol sy'n cael eu cyflwyno gan gynlluniau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru; rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; ffordd liniaru'r M4; adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy; gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth Cymru a phrosiectau seilwaith sylweddol eraill.