DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 01/01/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0089 - Cefnogi’r Ymgyrch Cwtogi’r Carbon
Codwyd gan:
Kirsty Williams and Darren Millar
Tanysgrifwyr:
Jeff Cuthbert 03/02/2011
Paul Davies 04/02/2011
Christine Chapman 04/02/2011
Jenny Randerson 04/02/2011
Nerys Evans 07/02/2011
Joyce Watson 07/02/2011
Mick Bates 23/02/2011
Cefnogi’r Ymgyrch Cwtogi’r Carbon
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi uchelgais Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran lleihau carbon yng Nghymru;
Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector adeiladwaith / amgylchedd adeiledig yn eu hwynebu wrth i Gymru symud tuag at economi rhad-ar-garbon; ac
Yn cefnogi’r ymgyrch Cwtogi’r Carbon dan arweiniad Sgiliau Adeiladu yng Nghymru sy’n ceisio sicrhau bod cwmnïau ac unigolion yn meddu ar y sgiliau cywir i gyflawni cynlluniau lleihau carbon mewn cartrefi a busnesau ledled Cymru.