11/06/2008 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (71)

Dyddiad: Dydd Mercher, 11 Mehefin 2008
Amser: 12.30pm

Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol  

Gofynnwyd y 15 cwestiwn.  Tynnwyd cwestiwn 5, 6, 7 a 15 yn ôl.

………………………………

12.59pm
Eitem 2: Cwestiynau i Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth  

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf.  Cafodd cwestiwn 5 ei ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio. Ni ofynnwyd cwestiwn 9.

……………………………

1.35pm
Eitem 3: Cynnig i ethol Aelod ar gyfer y Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig Bwyta’n Iach mewn Ysgolion  

NDM3953 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Angela Burns (Ceidwadwyr) yn aelod o’r Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig Bwyta'n Iach mewn Ysgolion yn lle Alun Cairns (Ceidwadwyr).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

1.35pm
Cyhoeddodd y Llywydd mai enillydd y Bleidlais Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol oedd Janet Ryder, gyda’i chynnig ar Arddangos Baneri a Nodweddion Cenedlaethol ar Blatiau Cofrestru Cerbydau.

………………………………

1.36pm
Eitem 4: Dadl ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig Peter Black - Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol

NDM3919 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50:

Yn cytuno y caiff Peter Black gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 14 Chwefror 2008 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y bleidlais:

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

8

21

47

Gwrthodwyd y cynnig.

………………………………

2.07pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3954 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi â phryder bod Cymru wedi cyflawni’r twf economaidd isaf o holl wledydd a rhanbarthau’r DU rhwng 1997 a 2006.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Yn lle "nodi â phryder” rhoi "nodi’r honiad”.

Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

"Yn nodi bod sylfaen sgiliau dda ac amrywiol yn allweddol er mwyn codi twf economaidd, felly’n gresynu wrth y tangyllido enfawr yng nghyswllt addysg ar gyfer pob oed ledled Cymru.”

Gwelliant 3 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn cydnabod bod Cymru, mewn gwirionedd, yn ystod y cyfnod rhwng 1997 a 2006 wedi cyflawni cyfradd twf economaidd sy’n fwy na 2% y flwyddyn mewn termau real, sy’n gyflymach na’r hyn a gyflawnwyd o dan gyfnod 9 mlynedd blaenorol Llywodraeth Geidwadol”.

Gwelliant 4 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)


Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn llongyfarch y gweithredu pendant gan Lywodraeth y Cynulliad o dan gytundeb Cymru’n Un i gyrraedd lefel gweithgarwch economaidd o 80% a sicrhau llwyddiant o gyllid Cydgyfeirio.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y bleidlais:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

14

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

33

47

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

15

47

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

14

47

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3954 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r honiad bod Cymru wedi cyflawni’r twf economaidd isaf o holl wledydd a rhanbarthau’r DU rhwng 1997 a 2006.

2. Yn cydnabod bod Cymru, mewn gwirionedd, yn ystod y cyfnod rhwng 1997 a 2006 wedi cyflawni cyfradd twf economaidd sy’n fwy na 2% y flwyddyn mewn termau real, sy’n gyflymach na’r hyn a gyflawnwyd o dan gyfnod 9 mlynedd blaenorol Llywodraeth Geidwadol.

3. Yn llongyfarch y gweithredu pendant gan Lywodraeth y Cynulliad o dan gytundeb Cymru’n Un i gyrraedd lefel gweithgarwch economaidd o 80% a sicrhau llwyddiant o gyllid Cydgyfeirio.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

13

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

3.15pm
Eitem 6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM3955 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1 Yn nodi â phryder:

a) bod nifer y gorchmynion adfeddiannu yng Nghymru wedi codi 26% ers 2007;

b) y gallai cyfraddau morgais uwch, y wasgfa gredyd a dyled gynyddol defnyddwyr arwain at gynnydd pellach mewn adfeddiannu yng Nghymru.

2 Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu i leihau nifer yr achosion adfeddiannu posibl drwy gefnogi:

a) cynlluniau cyngor ar ddyled ac achub morgeisi;

b) datblygu protocol a fyddai’n mynnu bod llys yn fodlon bod y rheini sy’n rhoi benthyg a’r rheini sy’n cael benthyg wedi cymryd y camau perthnasol cyn dyfarnu adfeddiannu.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

3.54pm
Eitem 7: Dadl fer

NDM3956 Janet Ryder (Gogledd Cymru):

Pŵer i’r Bobl.

………………………………

4.10pm
Gohiriwyd y cyfarfod

4.30pm
Bu i’r cyfarfod ailymgynnull ar gyfer y cyfnod pleidleisio

………………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 4.31pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 17 Mehefin 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr