Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (24)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Hydref 2007
Amser: 2.00pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl.
………………………………
3.00pm
Cwestiwn brys 1: Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Pa sylwadau y mae’r Gweinidog dros Dreftadaeth wedi’u cyflwyno i Ymddiriedolaeth y BBC a Llywodraeth y DU ynghylch effaith y colledion swyddi a gyhoeddwyd ar 18 Hydref ar Gymru.
3.10pm
Cwestiwn brys 2: Karen Sinclair (De Clwyd):
Yn dilyn y newid yng ngweinyddiaeth Cyngor Sir Ddinbych, pa drafodaethau y mae’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wedi’u cael ynghylch y cynllun gweithredu arfaethedig ar gyfer addysg yn y sir.
...................................................
3.23pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
...................................................
3.59pm
Eitem 3: Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007
NDM3696 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2007 mewn perthynas â'r ddogfen ddrafft Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007; a
2. Yn cymeradwyo bod y ddogfen ddrafft Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 yn cael ei gwneud yn unol â'r:
a) drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2007; ac â'r
b) Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2007.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
...................................................
4.05pm
Eitem 4: Dadl ar Flaenoriaethau’r Rhaglen Cymru’n Un ar gyfer Llywodraethu a’r camau i’w gweithredu
NDM3697 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cymeradwyo’r rhaglen lywodraethu a ddisgrifir yn y ddogfen 'Cymru’n Un’.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu “cymeradwyo” a rhoi “nodi” yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
8 | 0 | 34 | 42 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) – ni chafodd y gwelliant hwn ei ddewis
Yn lle “cymeradwyo” rhoi “nodi”.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn credu y byddai’r rhaglen lywodraethu a amlinellwyd yng ‘Nghytundeb Cymru Gyfan’ wedi gwasanaethu buddiannau Cymru’n well."
Cafodd copi o ‘Gytundeb Cymru Gyfan’ ei e-bostio at bob Aelod ddydd Iau 18 Hydref 2007.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
13 | 0 | 34 | 47 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad yw galluogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i fuddsoddi mewn tai a phrosiectau cymunedol yn flaenoriaeth."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
13 | 0 | 33 | 46 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad yw cau’r bwlch cyllido Addysg Uwch yn flaenoriaeth."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
13 | 0 | 34 | 47 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad yw disodli’r dreth gyngor gyda threth sy’n seiliedig ar y gallu i dalu yn flaenoriaeth."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
4 | 0 | 42 | 46 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad yw gwrthwynebu pwer niwclear yn flaenoriaeth."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
3 | 0 | 43 | 46 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad yw pleidleisiau teg ar gyfer cynghorau yn flaenoriaeth."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
4 | 0 | 41 | 45 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad yw pleidleisiau teg ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn flaenoriaeth."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
4 | 0 | 43 | 47 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad yw swyddogion heddlu ychwanegol yn flaenoriaeth."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
13 | 0 | 34 | 47 |
Gwrthodwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad yw delio â dyledion myfyrwyr yn flaenoriaeth."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
13 | 0 | 34 | 47 |
Gwrthodwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu nad yw datblygu’r celfyddydau yn flaenoriaeth."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
13 | 0 | 32 | 45 |
Gwrthodwyd gwelliant 12.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig
NDM3697 Carwyn Jones (Bridgend)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cymeradwyo’r rhaglen lywodraethu a ddisgrifir yn y ddogfen “Cymru’n Un”.
O blaid | Ymatal | Yn erbyn | Cyfanswm |
33 | 0 | 13 | 46 |
Derbyniwyd y cynnig.
Daeth y cyfarfod i ben am 6.12pm.
...................................................
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 12.30 pm ddydd Mercher, 24 Hydref 2007
Ysgrifenyddiaeth y Siambr