27/01/2009 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (108)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2009
Amser: 1.30pm

1.30pm

Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.

………………………………

2.37pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………………

2.55pm
Eitem 3: Datganiad gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Corus a datganiadau diweddar eraill ar swyddi

………………………………

Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Rheoli dwr - Caiff ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

………………………………

4.23pm
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig: Y defnydd o dir a newid hinsawdd

………………………………

4.49pm
Eitem 6: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Ymgynghoriad cyhoeddus ar ynni'r llanw ar Afon Hafren

………………………………

5.15pm
Eitem 7: Datganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai: Ymgynghoriad ar gynllun gweithredu bio-ynni

………………………………

5.34pm
Eitem 8: Dadl ar Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2007- 08

NDM4116 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2007/08.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn derbyn barn y Prif Arolygydd bod 'amrywiadau annerbyniol mewn perfformiad’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 7.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Canlyniad y bleidlais:

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i amlinellu sut y bydd yn mynd i’r afael â’r 'amrywiadau annerbyniol mewn perfformiad’ y tynnwyd sylw atynt gan y Prif Arolygydd.”

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 2

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4116 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2007/08.

Yn derbyn barn y Prif Arolygydd bod 'amrywiadau annerbyniol mewn perfformiad’.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

6.20pm

Cyfnod pleidleisio

………………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 6.22pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 1.30pm ddydd Mercher, 28 Ionawr 2009

Ysgrifenyddiaeth y Siambr