Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:
Aelod sy'n Cynnig:
Teitl y Bil Arfaethedig:
Bil Llifogydd (Cymru)
Amcanion Polisi y Bil:
Nod y Bil yw dangos bod Cymru yn cydnabod bod yr Argyfwng Hinsawdd yn gwaethygu llifogydd, ac o'r herwydd bod angen newid deddfwriaethol i gryfhau'r ymateb cenedlaethol i achosion o lifogydd. Bydd y Bil hefyd yn ymateb i'r galw gan gymunedau yng Nghymru am ymchwiliadau annibynnol i achosion o lifogydd sylweddol.
Diben y Bil hwn fyddai:
- Sefydlu Asiantaeth Lifogydd Genedlaethol, fel un corff sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â llifogydd, a fydd yn cydgysylltu’r broses o reoli risg llifogydd a'r ymateb i achosion o lifogydd.
- Creu dyletswydd i Lywodraeth Cymru hwyluso ymchwiliadau annibynnol i achosion o lifogydd sylweddol.
- Gosod terfynau amser statudol ar gyhoeddi adroddiadau ymchwilio i lifogydd, a mynd i’r afael â’r ffaith bod gan y prif awdurdodau llifogydd lleol yng Nghymru, o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, amser diderfyn i ymchwilio, paratoi a chyhoeddi adroddiadau ymchwilio i lifogydd o’r amser y maent yn dod yn ymwybodol o lifogydd yn eu hardal.
- Sefydlu cronfa barhaol fel bod cyllid ar gael ar unwaith i fynd drwy gam glanhau cychwynnol unrhyw achos o lifogydd, a sicrhau bod cyllid bob amser yn hygyrch i gynorthwyo preswylwyr heb yswiriant gyda chost y glanhau cychwynnol ar ôl achos o lifogydd.
- Gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau rhesymol i amddiffyn safleoedd o arwyddocâd hanesyddol a chenedlaethol rhag llifogydd.
- Sicrhau bod ymgyrch barhaus i wella ymwybyddiaeth perchnogion glannau afon o'u cyfrifoldebau, a chreu system gymorth sy'n nodi ac yn cynorthwyo perchnogion glannau afon nad ydynt yn cyflawni eu cyfrifoldebau.