Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:
Aelod sy'n Cynnig:
Teitl y Bil Arfaethedig:
Bil Calonnau Cymru
Amcanion Polisi y Bil:
Bil i safoni ac ehangu mynediad at offer a gweithdrefnau dadebru, ynghyd â hyfforddiant ar eu cyfer, at ddibenion gwella canlyniadau cleifion a lleihau marwolaethau ledled Cymru o ganlyniad i ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.
Rhoi rhwymedigaethau statudol ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu, cydgysylltu a gweithredu strategaeth genedlaethol a llwybrau rhanbarthol i roi gwelliannau o'r fath ar waith.
I gynnwys y seiliau a ganlyn:
- Rhwymedigaeth statudol i awdurdodau lleol sicrhau bod diffibrilwyr mynediad cyhoeddus yn cael eu gosod a'u cynnal mewn niferoedd digonol gan ystyried daearyddiaeth a phoblogaeth ardaloedd – i'w benderfynu mewn ymgynghoriad â byrddau iechyd lleol.
- Gofyniad i awdurdodau addysg lleol gyd-ddatblygu hyfforddiant ar ddefnyddio diffibrilwyr ac ymwybyddiaeth o’u hargaeledd gyda i) byrddau iechyd prifysgol lleol ii) awdurdodau lleol a iii) sefydliadau cymorth cyntaf gwirfoddol.
- Dyletswydd ar y Gweinidog Iechyd i sicrhau bod ystadegau'n cael eu casglu'n rheolaidd ynghylch marwolaeth sydyn y galon, cyfanswm nifer yr achosion o ataliad y galon a ffigurau goroesi cysylltiedig, a chyhoeddi diweddariad i'r Senedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r rhwymedigaethau a nodwyd yma o leiaf unwaith bob tymor tra bo'r Senedd yn eistedd.