Cynnig 018 - Peter Fox AS

Cyhoeddwyd 06/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/07/2023   |   Amser darllen munud

Mae'r cynig canlynol ar gyfer Bil Aelod wedi bod yn llwyddiannus yn sgil pleidlais ar 22 Medi 2021.

Ymweld Datblygu'r Bil Bwyd (Cymru)


Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Peter Fox AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Bwyd (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Diben y Bil yw sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogelwch bwyd, gwella lles economaidd-gymdeithasol Cymru a chynnig mwy o ddewis i ddefnyddwyr.

Byddai'r Bil hefyd yn anelu at:

  • Rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio strategaeth fwyd flynyddol i Gymru er mwyn mynd i'r afael â thlodi bwyd a diffyg maeth, a hynny er mwyn sicrhau twf cynaliadwy yn y sector bwyd i greu swyddi a denu buddsoddiad, a sicrhau bod cynhyrchwyr bwyd lleol cynaliadwy yn gallu cael gafael ar gymorth a chymhellion digonol;
  • Sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru i gyd-gynhyrchu a chyflawni strategaeth system fwyd gwytnach a mwy integredig mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid;
  • Darparu system fwyd mwy cynaliadwy a lleol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill ddatblygu cynlluniau bwyd cymunedol i atgyfnerthu prosesau caffael cyhoeddus a chreu gwell seilwaith i gysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr bwyd;
  • Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol ar lefelau cynhyrchu bwyd yng Nghymru, a datblygu cyfres o ddangosyddion i ddangos cyfraniad y sector bwyd at sicrhau diogelwch bwyd;
  • Anelu at ddileu pob math o wastraff bwyd a mandadu archfarchnadoedd a siopau perthnasol eraill i roi bwyd diangen i elusennau a banciau bwyd er mwyn helpu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas;
  • Cryfhau’r gofynion statudol ar gyfer labeli bwyd, megis nodi’r wlad tarddiad ar gyfer bwyd a fwyteir gartref a bwyd a fwyteir mewn lleoliadau gwasanaeth bwyd/lletygarwch, yn ogystal â chynaliadwyedd bwyd a gynhyrchir yng Nghymru.