Cynnig 032 - Andrew RT Davies AS

Cyhoeddwyd 12/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/07/2022   |   Amser darllen munud

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Andrew RT Davies AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Anaffylacsis mewn Ysgolion (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Diben y Bil yw cyflwyno dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion:

  1. i hyfforddi athrawon i adnabod yr arwyddion bod rhywun yn cael adwaith anaffylactig;
  2. i ddarparu hyfforddiant i athrawon ynghylch defnyddio EpiPen;
  3. i addysgu plant am alergeddau bwyd.

Gwybodaeth ategol:

Mae anaffylacsis yn adwaith alergaidd difrifol a allai fod yn angheuol. Mae'n amharu'n ddifrifol ar fywydau'r rhai sydd mewn perygl. Nid oes modd trin na gwella anaffylacsis. Mae gan bobl sydd mewn perygl ddau opsiwn: rheoli eu cyflwr a chario adrenalin.

Ar hyn o bryd, nid oes dyletswydd gyfreithiol i hyfforddi athrawon i adnabod a thrin adweithiau anaffylactig, nac i addysgu plant am alergeddau bwyd.

Byddai ymgorffori hyfforddiant ar alergeddau ac anaffylacsis yng ngweithgarwch ysgolion yn arwain at achub bywydau.

Anaphylaxis UK yw’r unig elusen ledled y DU sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r rhai sydd mewn perygl o ganlyniad i alergeddau difrifol, ac mae’r elusen yn cefnogi’r cynnig i wneud y newidiadau hyn yng Nghymru.