Cynnig 037 - Luke Fletcher AS

Cyhoeddwyd 06/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/10/2023   |   Amser darllen munud

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Luke Fletcher AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Adeiladu Cyfoeth Cymunedol (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Byddai’r Bil yn ceisio diweddaru a datblygu’r fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru i ehangu cynlluniau gwaith yn sylweddol ar draws pum piler adeiladu cyfoeth cymunedol, sef:

  1. Perchnogaeth luosog o’r economi
  2. Gwneud i bŵer ariannol weithio dros leoedd lleol
  3. Cyflogaeth deg a marchnadoedd llafur cyfiawn
  4. Caffael nwyddau a gwasanaethau mewn modd blaengar
  5. Defnyddio tir ac eiddo mewn modd sy’n gynhyrchiol i’r gymdeithas

Byddai’r Bil yn ceisio cryfhau a chrisialu’r gwaith datblygu economaidd presennol mewn meysydd sy’n wahanol yn strategol ac yn ddeddfwriaethol drwy eu dwyn o dan un fframwaith cydlynol ar gyfer adeiladu cyfoeth cymunedol. Byddai Bil o’r fath yn anelu at estyn a dyfnhau gweithrediad adeiladu cyfoeth cymunedol ledled Cymru, gan sicrhau ei fod ar gael i bawb a’i fod yn defnyddio egwyddorion cyffredin wrth ddarparu hyblygrwydd lleol, rhanbarthol a sefydliadol.