- Enillydd y balot: Sam Rowlands AS, Cynnig 029, Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)
O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil.
Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.
Os bydd y Senedd yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.
Prif Gerrig Milltir | Manylion |
---|---|
Dyddiad y balot | 13 Gorffennaf 2021 |
Dadl lle bydd y Senedd yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol |
Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 17 Awst 2022 Y Cyfarfod Llawn, 26 Hydref 2022 Caniatâd i frwrw ati - Ie |
Ymgynghoriad |
Ar 31 Ionawr 2023, lansiodd Sam Rowlands AS ymgynghoriad ar ei gynnig am Fil Addysg Awyr Agored (Cymru), gan wahodd pobl i fynegi eu barn ar amcanion polisi'r gyfraith arfaethedig. Mae disgwyl i'r ymgynghoriad gau ar 17 Mawrth 2023. |