Beth yw Pwyllgor y Senedd?

Grwpiau bach o Aelodau o’r Senedd yw Pwyllgorau. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru.

Mae gwaith Pwyllgorau yn cynnwys:

  • gwirio a herio gwaith y Llywodraeth, drwy gynnal ymchwiliadau sy’n edrych ar weithredoedd a gwariant Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill.
  • craffu ar gyfreithiau cyn ac ar ôl iddynt gael eu pasio, a chynnig newidiadau iddynt os yw’r Pwyllgorau o’r farn bod angen eu gwella.
  • clywed gan ddinasyddion, sefydliadau ac arbenigwyr i gael eu safbwyntiau gwerthfawr a'u profiadau personol o ran pynciau sydd o bwys iddynt.
  • cynnal gwaith yn agored, sicrhau bod Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn atebol yn gyhoeddus am eu gweithredoedd a’u penderfyniadau.