Mae’r Senedd yn gweithio gydag ystod eang o unigolion a grwpiau wrth graffu ar bolisi a deddfwriaeth. Nod yr adran hon yw rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen arnoch os bydd gofyn i chi gymryd rhan yng ngwaith pwyllgor.
Yn yr adran hon
Os nad ydych wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgor, cofiwch y gallwch ddilyn gwaith pob pwyllgor ar dudalen y pwyllgorau.
Mae’r Senedd yn ymrwymedig i ymgysylltu â phobl Cymru ynghylch ei waith. Os ydych yn teimlo bod angen addasu’r broses arferol er mwyn ei gwneud yn haws i chi wneud cyfraniad llawn, mae croeso i chi drafod eich anghenion gyda’r tîm clercio perthnasol.
Dogfennau defnyddiol
- Canllaw i'r broses ddeddfu - canllawiau ar y broses o greu deddfau yn Senedd Cymru
- Polisi Preifatrwydd Pwyllgorau'r Senedd
- Cynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd
- Pam mae'r Senedd yn gwerthfawrogi tystiolaeth amrywiol